
Darganfod trysorau Celtaidd 2,000 oed ar Ynys Môn

Mae arteffactau o’r oes haearn sy’n 2000 oed wedi eu darganfod o dan ddaear ar Ynys Môn.
Mae’r trysor yma yn debygol o fod yn rhan o’r casgliad archeolegol Llyn Cerrig Bach ac yn cynnwys deunyddiau a fyddai wedi cael eu defnyddio ar gerbyd Celtaidd.
Fe gafodd yr offer cyntaf o Lyn Cerrig Bach eu darganfod yn y 1940au, pan oedd yr RAF yn ehangu’r maes awyr ar gyfer bomwyr Americanaidd i ddod draw.
Maen nhw'n cynnwys darnau o arfau a cherbydau ac wedi eu harchifo mewn casgliad yn Sain Ffagan.

Nawr, ar ôl 80 mlynedd, mae arteffactau newydd wedi’u darganfod, meddai Richard Osgood, archeolegydd ar y cloddiad: "Roedden ni’n gwybod bod yna bosibilrwydd y gallai fod yna fwy [o arteffactau].
"Roedd ganddon ni amser prin tra’r oedd gwaith yn cael ei wneud ar y maes awyr, ac fe wnaethon ni gymryd gambl... a dyma’r darganfyddiad cyntaf o ddau ddarn mewn 80 mlynedd."
Yn gyfrifol am ddarganfod yr arteffactau oedd grŵp sy’n rhan o’r fenter Operation Nightingale.
Pwrpas Operation Nightingale yw cefnogi milwyr sydd yn sâl ac wedi’u hanafu.
Mae’r fenter yn gwahodd milwyr i ymuno â chloddiadau archeolegol, fel ffordd o wella iechyd meddwl.
Mae cynlluniau i ddychwelyd eto gyda’r gobaith o ddarganfyddiadau pellach.