Cyhoeddi chwe gwobr newydd ar gyfer sêr Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) wedi cyhoeddi chwe gwobr newydd ar gyfer rhai o sêr Eisteddfod yr Urdd eleni.
Bydd y gwobrau newydd yn cynnwys sesiynau mentora i chwe unigolyn 19-25 oed gyda Syr Bryn Terfel, yr actor Matthew Rhys, y ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden, y feiolinydd Rakhi Singh, yr actor ac enillydd BAFTA Callum Scott Howells a'r rheolwraig digwyddiadau, Sarah Hemsley-Cole.
Fe fydd cefnogaeth ariannol ar gael hefyd ar gyfer hyfforddiant pellach i’r chwe pherson buddugol.
Y gwobrau
Mae enwau’r gwobrau newydd fel a ganlyn:
- Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)
- Gwobr Amy Dowden (dawns)
- Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)
- Gwobr Matthew Rhys (theatr)
- Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)
- Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)
‘Cyfle euraidd’
“Fel rhywun sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rwy’n falch iawn o gefnogi’r wobr hon,” meddai Syr Bryn Terfel.
“Mae ysbrydoli perfformwyr Cymreig y dyfodol yn hanfodol, ac edrychaf ymlaen at weld y Llysgenhadon Celfyddydol newydd yma’n ffynnu,” ychwanegodd.
Yn ôl y feiolinydd, y cyfarwyddwr cerddoriaeth a'r cyfansoddwr Rakhi Singh, mae’n “bwysicach nac erioed i’n cerddorion ifanc yng Nghymru dderbyn cefnogaeth.”
Mae’n annog “pob cerddor ifanc” i ymgeisio am y cyfle er mwyn sicrhau eu bod yn ennill cymaint o brofiadau ag sy’n bosibl.
Mae’r gwobrau yn “gyfle euraidd” yn ôl Matthew Rhys sy'n dweud ei fod “mor gyffrous” i weld partneriaeth yr Urdd a'r Coleg Brenhinol yn parhau i “gefnogi a meithrin talentau’r dyfodol.”
Ac mae’r ddawnswraig Amy Dowden wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd y gwobrau yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr hefyd.
'Dathlu'
Mae’r actor Callum Scott Howells, sydd yn adnabyddus am ei rôl yn y gyfres It’s a Sin, yn un o raddedigion CBCDC.
Mae’n dweud bod cyfleoedd mentora tebyg wedi ei helpu yn ystod ei yrfa. “Alla i ddim aros i ddathlu sêr y dyfodol!” meddai.
Mae’r rheolwr digwyddiadau Sarah Hemsley-Cole hefyd yn dweud ei bod yn falch y bydd y “rhai sy’n gweithio gefn llwyfan” yn cael eu cydnabod gan mai nhw ydy “asgwrn cefn y diwydiant creadigol.”
Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yn cael ei chynnal ym Mharc Margam ger Port Talbot rhwng 26 a 31 Mai eleni. Mae angen i gystadleuwyr gofrestru erbyn 3 Mawrth.
Bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r Urdd a CBCDC yn bresennol yn yr ŵyl i benderfynu ar y chwech buddugol. Bydd yr enwau’n cael eu cyhoeddi’n fyw ar S4C ar ddiwrnod olaf y cystadlu.