Gyrrwr lori wedi ei ddal yn ceisio smyglo cannoedd o lysywod prin drwy Gaergybi
Cafodd gyrrwr lori 33 oed ei ddal yn ceisio smyglo 666 o lysywod prin trwy borthladd Caergybi ym Môn.
Fe gafodd Kevin Forbes, o Rossa Court, Dungannon, Gogledd Iwerddon, ddedfryd o garchar am 12 mis wedi'i gohirio am 18 mis, gyda gorchymyn i wneud 150 awr o waith di-dâl.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth cafodd hefyd ddirwy o £1,500 a bydd rhaid iddo dalu £150 o gostau.
Cyfaddefodd Forbes iddo achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig a throsedd o dwyll treth.
Dywedodd yr erlynydd Laura Knightly fod Forbes wedi cael ei ddal ym mhorthladd Caergybi, ar Ynys Môn flwyddyn yn ôl, ar ôl cyrraedd o Ddulyn.
“Roedd yn ymddangos bod y mwyafrif o lysywod wedi marw neu’n marw,” meddai.
'Ffafr i ffrind'
Wrth gael ei holi, dywedodd Forbes ei fod yn danfon y llysywod gwerth £15,700 i Lundain “fel ffafr i ffrind” ac nad oedd yn gwybod eu bod wedi eu gwarchod gan gyfraith gwlad.
Dywedodd Miss Knightly nad oedd gan y llysywod ddigon o ocsigen na dŵr ar y pryd.
Clywodd y llys bod smyglo llysywod i Asia yn fasnach anghyfreithlon gwerth biliynau o Ewros yn flynyddol.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: “Mae’n fasnach anghyfreithlon broffidiol.”
Dywedodd wrth Forbes: “Mewn 25 mlynedd o eistedd yma, dyma un o’r achosion mwyaf anarferol o greulondeb a thwyll anifeiliaid i ddod o fy mlaen.
"Ond fe wnaethoch chi benderfyniad gwaedlyd i wneud yr hyn roeddech chi’n ei ystyried yn arian hawdd, heb feddwl am y dioddefaint diangen a diamheuol oedd yn cael ei achosi i’r anifeiliaid gwarchodedig hyn.
“Rwy’n derbyn mai dim ond nawr rydych chi’n sylweddoli maint yr hyn rydych chi wedi’i wneud,” ychwanegodd y Barnwr Parry.