Prifysgol Caerdydd: Pryder am ddyfodol 'cannoedd' o swyddi
Mae undeb sydd yn cynrychioli darlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dweud bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn adrannau o'r brifysgol fore dydd Mawrth i amlinellu dyfodol cannoedd o swyddi yn y sefydliad.
Daw'r cyfarfodydd yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled y wlad, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd.
Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynnig i staff i dderbyn diswyddiadau gwirfoddol. Fe ddaeth y cyfnod o wneud cais i ben ym mis Medi.
Y gred yw bod dros 150 o aelodau staff y brifysgol wedi cynnig eu henwau ar gyfer derbyn diswyddiadau gwirfoddol.
Wrth gynnig y cais am ddiswyddiadau gwirfoddol, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol ar y pryd bod eu Llywydd ac Is-ganghellor, Yr Athro Wendy Larner o'r farn bod "model ariannu prifysgolion wedi torri."
Wrth siarad am y sefyllfa y llynedd, dywedodd yr economegydd a'r academydd yr Athro Dylan Jones-Evans bod prifysgolion Cymru yn "wynebu sefyllfa ariannol drwg iawn".
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans wrth raglen Newyddion S4C bod cyfuniad o ffactorau yn golygu bod her ariannol sylweddol yn wynebu nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru.
Yn ôl yr Athro Jones-Evans, roedd sawl prifysgol wedi bod yn or-ddibynnol ar ddenu myfyrwyr o dramor yn ddiweddar.
Roedd ychydig dan 70,000 o fyfyrwyr tramor wedi sicrhau lle ar gwrs israddedig yn y DU yn 2024 - gostyngiad o 2.3% ar y flwyddyn flaenorol, yn ôl ystadegau swyddogol.
Roedd newidiadau i fisas gan Lywodraeth y DU hefyd yn golygu na allai teuluoedd fyw yng Nghymru tra bod myfyrwyr yn astudio, gan olygu bod y niferoedd wedi cwympo yn ddramatig.