Rhybudd melyn am law i dde Cymru
Mae rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer de Cymru trwy gydol y diwrnod.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 12.00 ddydd Sul ac mae yn parhau tan 21.00 nos Fawrth.
Dros y dyddiau diwethaf mae'r de wedi profi cyfnodau hir o law, gyda hyd at 34.6mm o law yn cwympo yn Libanus yn y Bannau Brycheiniog ddydd Llun.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi naw rhybudd 'byddwch yn barod' ar gyfer llifogydd mewn rhai ardaloedd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy a Phowys.
Fe allai hyd at 50-60mm o ddŵr gwympo mewn rhai mannau o Gymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bydd y glaw yn achosi amodau gyrru anoddach ac o bosib yn golygu y bydd rhai ffyrdd yn gorfod cau.
Hefyd fe allai rhai tai a busnesau brofi llifogydd ac maen nhw'n annog nifer i gymryd camau i baratoi.
Bydd y rhybudd yn effeithio'r siroedd yma:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Caerdydd
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen