Newyddion S4C

Gwerthu gwisgoedd Doctor Who mewn ocsiwn elusennol

28/01/2025
David Tennant a Catherine Tate

Bydd casgliad o wisgoedd a gafodd eu gwisgo yn y gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn.

Bydd yr arwerthiant yn cynnwys 150 o wisgoedd a ymddangosodd yng nghyfres BBC rhwng 2005 a 2022, gan gynnwys rhai'r prif gymeriad, sef y Doctor.

Mae'r gyfres, sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 2005, yn adrodd anturiaethau'r Doctor wrth iddo/ iddi deithio drwy ofod ac amser.

Bydd yr arwerthiant yn cynnwys dillad yr actorion David Tennant, Jodie Whittaker, Matt Smith a Peter Capaldi o'u cyfnod yn chwarae'r Doctor.

Bydd gwisgoedd eraill yn cynnwys top a gafodd ei wisgo gan Billie Piper fel Rose Tyler, a ffrog briodas a gafodd ei gwisgo gan Catherine Tate fel Donna Noble.

Bydd Tardis a Dalek arbennig hefyd yn cael eu gwerthu ynghyd â phropiau eraill oddi ar y gyfres.

Fe gafodd Doctor Who ei darlledu'n wreiddiol rhwng 1963 a 1989, cyn dychwelyd yn 2005.

Dros y blynyddoedd, mae 15 o actorion wedi chwarae rôl y Doctor Ncuti Gatwa yw'r diweddaraf i lywio'r Tardis.

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal rhwng 11  a 25 Chwefror, gyda'r elw yn mynd i elusen y BBC, Plant Mewn Angen.

Gall y rhai sydd â diddordeb yn yr arwerthiant gofrestru o 28 Ionawr, a hynny ar wefan Propstore.

Llun: PA

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.