Cyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi'i urddo yn Nhŷ'r Arglwyddi
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ei urddo yn Arglwydd am Oes mewn seremoni yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Fe wnaeth Mr Jones, 57 oed, dyngu llw yn Gymraeg a Saesneg wrth gael ei urddo yn Arglwydd am oes.
Fe fydd yn cael ei adnabod dan yr enw Arglwydd Jones o Ben-y-bont – neu Lord Jones of Penybont, yn Saesneg.
Mewn seremoni fer yn San Steffan, cafodd gefnogaeth cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Arglwydd Murphy o Dorfaen a’r Farwnes Wilcox o Gasnewydd.
Dywedodd yr Arglwydd Jones ei fod yn gobeithio cynrychioli "Cymru ddatganoledig" yn ei rôl.
"Arglwydd Jones o Ben-y-bont achos pobl Pen-y-bont wnaeth cefnogi fi mewn pum etholiad. A'r enw Cymraeg am Ben-y-bont, nid Bridgend," meddai wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.
"Llais i Gymru yw e achos bod 'na shwt gyment o aelodau wedi marw dros y blynydde ac wedi lleihau falle, llais Cymru.
"So dyna oedd y peth cynta oedd yn bwysig i fi, bod llais Cymru, llais datganoledig Cymru, fydd yn cael ei chlywed.
"Ac hefyd wrth gwrs i fod yn rhan o drafodaethau sydd yn hollbwysig yn y pen draw, a gwneud cyfraniad."
Gyrfa wleidyddol
Fe gafodd Mr Jones ei ethol i Gynulliad cyntaf Cymru yn 1999 ar ôl llwyddo i ennill yn etholaeth Pen-y-Bont.
Wedi iddo olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, bu Mr Jones yn Brif Weinidog am naw mlynedd rhwng 2009 a 2018.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Jones gynrychioli Llafur Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid, ac mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar S4C.
Mae’r cyn fargyfreithiwr bellach yn athro’r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Llun: parliamentlive.tv