Cyn gaplan ysgol yn Llandudno yn osgoi carchar ar ôl creu delweddau anweddus
Mae cyn reithor a chaplan ysgol yn y gogledd wedi osgoi carchar ar ôl pledio’n euog i ddau achos o greu delweddau anweddus o blant.
Fe wnaeth y Parchedig Samuel Erlandson, 36 oed, o Lanrhos, ger Llandudno bledio’n euog i drosedd ychwanegol, a hynny o feddiannu pornograffi eithafol oedd yn cynnwys ci.
Yn Llys Ynadon Llandudno, dywedodd yr erlynydd Alys Haf fod Erlandson yn “ddyn yr oedd eraill yn ymddiried ynddo” a oedd yn gweinyddu priodasau.
Ond fe gafodd ei arestio fis Tachwedd a chafodd ei ffôn ei meddiannu gan yr heddlu.
Cafwyd hyd i ddwy ddelwedd anweddus o blant rhwng oedrannau tair ac wyth oed, oedd yn “hynod frawychus”, yn ôl y cyfreithiwr.
Roedd Erlandson wedi treulio amser fel caplan Coleg St David’s, ger Llandudno, cyn cael ei ddiswyddo.
Roedd hefyd yn rheithor yn Eglwys Sant Paul yn Llandudno ac Eglwys Sant Hilary yn Llanrhos.
'Ymddiriedaeth'
Dywedodd David Jones ar ran yr amddiffyniad: “Yn amlwg, mae hwn yn achos anodd. Mae’r ymddiriedaeth wedi’i thorri.”
“Yn amlwg mae e wedi siomi nifer o bobl, ei gyflogwyr, plant a’i deulu. Mae sawl aelod o’i deulu yma heddiw.
“Mae wedi gorfod byw y tu allan i’r ardal, ac mae’n parhau i fyw yno gyda’i dad.”
Dywedodd Mr Jones ei fod yn 'edifarhau.'
“Ni fydd yn gallu gweithio i’r eglwys eto, nac o fewn addysg. Mae wedi gorfod arwyddo er mwyn derbyn Credyd Cynhwysol.”
Fe wnaeth y barnwr Gwyn Jones ei ddedfrydu i 32 wythnos yn y carchar, wedi’i gohirio am 18 mis.
Bydd yn rhaid i Erlandson hefyd gwblhau 160 o waith di-dâl, yn ogystal ag ymgymryd â gweithgaredd adferiad.
Bu'n rhaid iddo hefyd dalu £272 mewn costau, a chofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd. Cafodd Gorchymyn Atal Niwed Rhyw ei roi hefyd.
Dywedodd Mr Jones: “Mae troseddau o’r natur hyn yn ddifrifol iawn, iawn gan fod plant go iawn yn rhan o’r delweddau hyn.”
“Mae'r mater yn waeth o ystyried eich safle o fewn y gymuned. Roedd y gymuned yn ymddiried ynoch chi nid yn unig oherwydd eich bod wedi eich ordeinio ond hefyd o ran eich safle o fewn yr ysgol dan sylw.
“Heb os, bydd angen i’r rhai sydd â chysylltiadau â’r ddau sefydliad ystyried a gymerwyd camau priodol ganddynt i sicrhau bod pawb yn cael eu diogelu.”
Eglwys yng Nghymru
Mewn datganiad, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi'u "brawychu a'u tristau, o wybod fod un o'u clerigwyr wedi cyflawni'r fath droseddau difrifol."
”Mae'n gweddïau gyda'r dioddefwyr yn yr achos hwn, a phob un sy'n dioddef camdriniaeth," meddai'r datganiad.
“Mae tîm diogelu’r Eglwys yng Nghymru wedi gweithio’n agos gyda’r heddlu a’r awdurdodau statudol.
"Yn syth ar ôl iddo gael ei arestio, dilëwyd caniatâd Mr Erlandson i weinyddu fel offeiriad.
"Bydd Tribiwnlys Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach.
“Does dim lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i ofal ac amddiffyn plant a phobl agored i niwed yn ein cymunedau.
"Rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr.”
Llun: Eglwys Sant Paul, Llandudno, ble roedd Samuel Erlandson yn gwasanaethu. (Google Maps)