Newyddion S4C

Seren Tŷ Ffit wedi 'cael fy mywyd yn ôl' ar ôl trafod plentyndod trawmatig

Sharon Jones

Mae un o sêr y gyfres deledu Tŷ Ffit eleni wedi dweud ei bod hi wedi cael ei "(b)ywyd yn ôl” ar ôl siarad yn agored am gael ei cham-drin yn ei harddegau. 

Fe gafodd plentyndod trawmatig Sharon Jones, 59 oed o’r Groeslon ger Caernarfon effaith fawr arni gan ei gadael mewn “lle tywyll” meddai.  

Fe wnaeth ei phrofiadau effeithio ar ei hunan hyder hefyd. 

"Cefais blentyndod ofnadwy,” meddai. “Cefais fy newynu a'm curo'n wythnosol, o naw oed tan oeddwn i'n 17 oed. 

“Yr unig beth fyddwn i’n ei glywed pan oeddwn i’n blentyn oedd, 'rwyt ti'n hyll, does neb yn dy hoffi di a dim ots beth ti'n ddweud fydd neb byth yn dy gredu di'."

"A phan o'n i'n 13 oed fe wnaeth rhywun ymosod arnaf yn rhywiol ac fe wnes i guddio hynny am 45 mlynedd. 

“Wnes i ddim dweud wrth neb a fy ofn mwyaf oedd bod rhywun yn mynd i fynd â fi i rywle a gorffen beth wnaethon nhw ddechrau. 

"Dw i'n gwybod bod o jyst yn fy mhen i ond ro'n i mewn lle mor dywyll nes i golli golwg ar pwy oeddwn i. Roeddwn i'n ofni fy nghysgod fy hun.” 

Image
Sharon Jones

Fe benderfynodd Sharon Jones, sydd yn fam i dri ac yn nain i ddau o blant wneud cais i gymryd rhan yn y gyfres ar S4C er mwyn iddi allu cael y wybodaeth gywir i'w helpu gyda'i hiechyd.

Dros bedair blynedd yn ôl fe gafodd hi ddiagnosis o ganser y croen o’r enw carsinoma celloedd Basal.

Erbyn hyn mae ei chyflwr wedi gwella ond mae'n awyddus i fagu hyder a byw bywyd iach.

Nod y gyfres, sy’n cael ei chyflwyno gan Lisa Gwilym, yw canolbwyntio ar wella lles corfforol, meddyliol ac emosiynol grŵp o bobl gyda chymorth mentoriaid.

Mae pedwar unigolyn arall sydd hefyd eisiau newid eu bywydau yn Nhŷ Ffit sef Arwel Cullen, 34 oed, o Bontllyfni, ger Caernarfon, Becky Richards, 41 oed, o Saron ger Rhydaman, Dylan Edwards, 38 oed, yn wreiddiol o’r Bontnewydd ger Caernarfon a Gwawr Job-Davies, 40 oed o Hen Golwyn.

Image
Sharon Jones

 

Un o'r ffyrdd y cafodd Sharon hwb ar y rhaglen oedd drwy gael help yr hyfforddwr nofio dŵr agored Caris Bowen. Roedd gan Sharon ffobia o ddŵr.

"Dw i'n ofni dŵr. Fe foddodd fy nhad pan o'n i'n naw oed a dw i'n meddwl bod hynny wedi ffurfio rhyw fath o floc yn fy mhen. Dw i'n gallu nofio o fath ond os nad ydw i’n gallu cyffwrdd y llawr dw i'n mynd i banig. 

"Ar ôl mynd i nofio yn y môr gyda Caris i ddechrau, ac wedyn efo'r lleill ro'n i'n teimlo'n hollol wahanol, roedd o'n hollol ffantastig. Dydw i ddim ofn rwan," meddai. 

Gobaith Sharon Jones yw y bydd siarad am ei hanes yn profi bod modd “dod allan ar yr ochr arall.”

"Bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn werth chweil os ydi o dim ond yn ysbrydoli un person i adrodd am y cam-drin sy'n digwydd iddyn nhw ac i ofyn am help."

Mae cyfres Tŷ Ffit yn cael ei darlledu ar S4C bob nos Fawrth am 21.00. Mae hefyd ar gael i'w ffrydio ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. 

Os yw cynnwys yr erthygl honno wedi cael effaith arnoch, mae cymorth ar gael ar wefan S4C:

 https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.