Pencampwriaeth Rali'r Byd: Elfyn Evans yn 'hapus' gorffen yn ail
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi dweud ei fod yn “hapus” gyda'i ganlyniad wedi iddo orffen yn yr ail safle yn rownd agoriadol Pencampwriaeth Rali'r Byd ym Monte Carlo.
Fe orffennodd y seren ralïo o Ddolgellau a’i gyd-yrrwr Scott Martin 18.5 eiliad y tu ôl i’r enillydd Sebastien Ogier ddydd Sul.
Wrth siarad gyda rhaglen Ralïo wedi’r ras, dywedodd y Cymro: “Mae’r ail safle yn ffordd solid o gychwyn y flwyddyn a ‘da ni’n ddigon hapus efo hynna.”
“Am ddiwedd,” meddai wrth ddisgrifio ei daith dros y llinell terfyn. “Dim ond jyst neud o rownd y cwpwl o gorneli ola ‘na,” ychwanegodd.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1883505361035973028
Adrien Fourmaux ddaeth yn drydedd a Kalle Rovanpera ddaeth yn bedwerydd.
Fe fydd ail rownd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Sweden rhwng 13-16 Chwefror.