Newyddion S4C

Rhybudd melyn am wynt a glaw

Tywydd

Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer gwynt a glaw trwm mewn sawl ardal yng Nghymru.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai'r gwynt achosi trafferthion gyda phosibilrwydd y gallai gyrraedd hyd at 70 milltir yr awr ar hyd y glannau.

Mae disgwyl oedi gyda threnau, ar y ffyrdd a llongau ac fe allai pobl golli trydan.

Daw'r rhybudd melyn o wyntoedd cryfion i ben am 6.00 fore dydd Mawrth.

Y siroedd allai gael eu heffeithio yw: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell Nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg. 

Mae'r rhybudd o law trwm mewn grym tan toc cyn hanner nos, nos Lun. Fe allai hyd at 20-40mm o law ddisgyn ond hyd at 50-70mm mewn ardaloedd uchel. 

Fe allai'r glaw achosi llifogydd ar rai ffyrdd ac eiddo ond mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud mai posibilrwydd "bach" yw hyn. 

Y siroedd allai gael eu heffeithio yw: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell Nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Wrecsam. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.