Newyddion S4C

Cyhoeddi £49m ychwanegol i ymchwil iechyd yng Nghymru

27/01/2025
Claf

Mae sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gwneud buddsoddiad gwerth £49 miliwn ar gyfer ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae iechyd menywod, iechyd meddwl a thaclo canser ymhlith y meysydd allweddol fydd yn cael arian ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd:

  • Uned Firoleg Gymhwysol Cymru
  • Canolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, 
  • Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial, 
  • Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
  • Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg. 

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys cyllid ar gyfer canolfannau blaenllaw fel Cronfa Ddata SAIL, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a Phartneriaeth CASCADE.

Bydd yn hybu gallu academaidd a faint o ymchwil o ansawdd uchel sy'n digwydd yng Nghymru, meddai'r sefydliad sy'n tynnu y gwasanaeth iechyd a sefydliadau ymchwil yng Nghymru gan gynnwys prifysgolion ynghyd.

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar draws dau gategori - gwobrau cynaliadwyedd, er mwyn i grwpiau allu cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy'n dod i'r amlwg. 

Cyllid

Y rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn arian yw:  

  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£2,999,894) 
  • Canolfan Ymchwil Canser Cymru (£4,866,172) 
  • Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (£4,551,338)
  • Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (£2,996,483)
  • Biofanc Canser Cymru (£2,363,320) 
  • Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1,865,815) 
  • Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (Partneriaeth CASCADE) (£2,999,636)
  • Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) (£2,886,936) 
  • Canolfan NiwroTherapïau Uwch (£2,856,309) 
  • Uned Ymchwil Arennau Cymru (£2,984,527) 
  • Canolfan Treialon Ymchwil (£4,742, 424)
  • Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (£2,073,161)

'Gwahaniaeth'

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae gan ymchwil rôl hanfodol i'w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach.

“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod, ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru."

Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru: “Mae'n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy'n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol.”

Dywedodd bod y dull o ddarparu’r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf: “Yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru”.

Ac yn ail, “lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy'n dod i'r amlwg yn yr ardal,” meddai.

"Mae'r canolfannau hyn yn ymgorffori'r egwyddor o ymchwil sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.