Caniatáu mwy o adrodd o lysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr
Mae cynllun sy'n caniatáu i newyddiadurwyr gael mwy o fynediad i lysoedd teulu yn cael ei gyflwyno ledled y wlad mewn ymgais i wella tryloywder.
Mae'r fenter yn caniatáu i newyddiadurwyr a blogwyr cyfreithiol adrodd ar achosion wrth iddynt ddatblygu, fel sy’n digwydd yn y llysoedd troseddol. Ond rhaid i'r teuluoedd a rhai gweithwyr proffesiynol dan sylw aros yn ddienw.
Lansiwyd cynllun peilot yn 2023 mewn llysoedd teulu yn Leeds, Caerdydd a Carlisle. Cafodd ei ymestyn i gynnwys 13 llys arall ym mis Ionawr y llynedd, gan gynnwys Lerpwl, Truro, Milton Keynes a dwyrain Llundain.
O ddydd Llun ymlaen, bydd y cynllun newydd yn berthnasol i bob llys teulu yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Llywydd yr Adran Deulu, Syr Andrew McFarlane: “Mae sefydlu’r darpariaethau adrodd agored ym mhob llys teulu yng Nghymru a Lloegr yn drobwynt i gyfiawnder teuluol.”
“Mae gwella dealltwriaeth a hyder y cyhoedd yn y llys teulu o bwysigrwydd sylfaenol," meddai.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ‘na ragdybiaeth y gall newyddiadurwyr a blogwyr cyfreithiol adrodd yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed gan lysoedd peilot yng Nghymru a Lloegr.
“Mae’r adrodd yr ydym wedi’i weld wedi bod yn arwyddocaol, ac mae’n cynnwys ymdrin â materion sy’n effeithio ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas… megis plant.
“Nid ydym yn ymwybodol am unrhyw achosion o dorri anhysbysrwydd plant, ac mae nodau’r peilot, sef cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Llys Teulu, yn cael eu gwireddu.”
Roedd gohebwyr wedi cael mynediad i lysoedd sy'n delio â materion sensitif yn ymwneud â phlant ers peth amser er eu bod ar gau i'r cyhoedd. Ond roedd adrodd yn gyfyngedig iawn i'r hyn y byddai barnwr yn ei ganiatáu yn unig.
O dan y rheolau newydd, bydd achosion lle mae newyddiadurwyr a blogwyr yno yn cael eu cwmpasu gan orchymyn tryloywder, sy'n nodi'r hyn y gellir ei adrodd.
Gall gohebwyr hefyd gael mynediad at rai dogfennau achos sylfaenol a gall teuluoedd siarad â newyddiadurwyr am eu hachos, heb fentro cosb am ddirmyg llys.
Gall y barnwyr dal benderfynu na fydd rhai achosion yn cael eu hadrodd, neu y dylid gohirio adrodd mewn rhai achosion.
'Ansicrwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran y farnwriaeth na fu unrhyw achosion hysbys o dorri anhysbysrwydd wrth adrodd o dan y peilot.
Bydd y cynllun yn cwmpasu achosion cyfraith gyhoeddus, er enghraifft, y rhai sy'n ymwneud ag awdurdodau lleol, achosion cyfraith breifat fel achosion rhwng rhieni sydd wedi gwahanu, ac anghydfodau ariannol.
Mae Lucy Reed KC, cadeirydd y Transparency Project sef elusen a sefydlwyd yn 2015 i hyrwyddo tryloywder yn y system cyfiawnder teuluol, wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Dywedodd: “Mae’r cynllun peilot sydd wedi’i ymestyn yn raddol ers 2023 wedi bod yn llwyddiant, ac wedi galluogi mwy a gwell adrodd am gyfiawnder teuluol heb beryglu lles a phreifatrwydd teuluoedd.
“Mae gwneud y peilot hwnnw yn nodwedd barhaol ym mhob llys teulu yng Nghymru a Lloegr yn gam enfawr ymlaen, ac rydym yn ei groesawu.
“Mae’n golygu, gobeithio, y bydd yn glir bod tryloywder yn greiddiol i waith y llys teulu a’i fod yma i aros.
“Nid yw dod o hyd i ffyrdd o wneud y llys teulu yn fwy tryloyw, atebol a dealladwy yn hawdd pan fo llawer o’r gwaith y mae’r llysoedd yn ymdrin ag ef mor sensitif, ond mae’n hollbwysig os yw’r llys teulu am adeiladu a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
“Mae caniatáu adroddiadau dienw gan newyddiadurwyr a blogwyr cyfreithiol wedi galluogi’r llys i ddod o hyd i gydbwysedd gwell rhwng yr angen deuol am dryloywder a phreifatrwydd."
Ond dywedodd Alexandra Hirst, uwch gydymaith yn nhîm teulu’r cwmni cyfreithiol Boodle Hatfield, y dylid rhoi “rheolau caeth” ar waith o amgylch “adrodd priodol” oherwydd “lle mae ansicrwydd, mae straen”.
Dywedodd: “Mae pwysau dwys achosion cyfraith teulu yn ddigon o straen heb i’r cyfryngau roi gwybod am wybodaeth hynod bersonol a sensitif.
“Nid yw’r rhain yn achosion troseddol, ond mae’r newidiadau hyn yn debygol o wneud i unigolion nad ydynt efallai erioed wedi profi ymgyfreitha o’r blaen deimlo eu bod ar brawf.
“Bydd y sicrwydd cysurus y bydd eu gwrandawiad yn aros yn breifat ac yn annhebygol iawn o gael ei adrodd arno yn cael ei danseilio gan y newid hwn.”