Newyddion S4C

'Mwy tebygol' bod Covid wedi dod o labordy - CIA

26/01/2025
John Ratcliffe

Mae gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau bellach yn credu ei fod yn “fwy tebygol” bod Covid-19 wedi dod o labordy yn China nag o anifail, meddai mewn adroddiad.

Am rai blynyddoedd roedd y CIA wedi dweud nad oedd yn amlwg ai o anifail neu o labordy oedd Covid wedi dod.

Ond ar ol ail-asesu’r wybodaeth mae wedi dod i’r casgliad bod y ddau senario yn “bosib” ond mai’r ail oedd fwyaf tebygol.

“Mae CIA yn parhau i gredu bod senarios sy’n gysylltiedig â tharddiad naturiol COVID-19 hefyd yn gredadwy,” meddai’r asiantaeth mewn datganiad.

Cyhoeddwyd y dadansoddiad a gafodd ei gasglu yn ystod dyddiau arlywyddiaeth Joe Biden gan arweinydd newydd y CIA, John Ratcliffe, a benodwyd gan Donald Trump.

Dywedodd John Ratcliffe mai un o'i flaenoriaethau cyntaf oedd cyhoeddi asesiad cyhoeddus y CIA ar darddiad y pandemig.

“Mae hynny’n rhywbeth oedden i eisiau ei wneud ar y diwrnod cyntaf,” meddai.

“Mae’r wybodaeth, ein gwyddoniaeth, a synnwyr cyffredin i gyd yn mynnu bod gwreiddiau COVID yn sefydliad firoleg Wuhan.”

Llun: John Raticliffe yn cael ei urddo yn arweinydd y CIA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.