Newyddion S4C

Heathrow: Rachel Reeves fwy neu lai yn cadarnhau cynlluniau i adeiladu trydedd llain lanio

26/01/2025
Rachel Reeves

Mae Rachel Reeves fwy neu lai wedi cadarnhau cynlluniau i gymeradwyo trydedd llain lanio i faes awyr Heathrow.

Dywedodd y Canghellor y byddai'r datblygiad yn golygu y byddai awyrennau yn gallu glanio yn hytrach na "hedfan o gwmpas Llundain".

Byddai yn rhaid i’r Cabinet llawn gefnogi unrhyw ehangu ar Faes Awyr Heathrow, meddai.

Wrth wynebu cwestiynau gan ddarlledwyr dydd Sul ynglŷn â sut y bydd Llafur yn cydbwyso ei hymrwymiadau i’r hinsawdd a chwilio am dwf economaidd, dywedodd Ms Reeves bod datblygiadau yn y diwydiant hedfan cynaliadwy yn mynd “law yn llaw” â rhoi hwb i’r economi. 

“Mae llawer wedi newid yn y diwydiant hedfan”, meddai ar raglen BBC, Sunday With Laura Kuenssberg, “Mae tanwydd hedfan cynaliadwy yn newid allyriadau carbon wrth hedfan.

“Mae buddsoddiad enfawr yn digwydd mewn awyrennau trydan, a bydd trydedd llain lanio yn golygu y gall hediadau lanio yn Heathrow yn lle mynd o amgylch Llundain.”

Pan ofynnwyd a oedd cyhoeddiad am ehangu’r maes awyr ar fin digwydd, dywedodd Ms Reeves: “Wel fe welwch y cynlluniau pan fyddwn yn eu gosod allan.”

“Ond mae’r Llywodraeth hwn eisoes wedi cymeradwyo’r penderfyniad i ehangu Maes Awyr Dinas Llundain a Maes Awyr Stansted”, meddai, gan ddweud fod y ddau benderfyniad hynny yn benderfyniadau a oedd y Llywodraeth flaenorol wedi eu hatal.

“Rydyn ni ar y trywydd iawn ac yn cyflawni, bydd hynny’n dda ar gyfer buddsoddiad a masnach yn ein gwlad a hefyd yn dda i deuluoedd sydd eisiau mynd ar wyliau rhatach.”

'Tyfu'

Mae Maer Llundain Syr Sadiq Khan, a enillodd drydydd tymor yn 2024 yn gwrthwynebu ehangu maes awyr yn y brifddinas, ac wedi dweud bod “dim newid” i’w farn, ac wedi awgrymu y byddai angen lliniaru cynlluniau ar gyfer llygredd sŵn ac allyriadau carbon.

Wrth siarad â Trevor Phillips fore Sul, dywedodd Ms Reeves: “Byddwn yn gwneud cyhoeddiadau am bolisïau pan fyddwn yn barod i wneud hynny, gyda chyfrifoldeb gweinidogol ar y cyd."

Mae cyfrifoldeb gweinidogol ar y cyd yn gonfensiwn yn San Steffan sy’n golygu bod yn rhaid i bob aelod o’r Cabinet gefnogi penderfyniadau’r Llywodraeth yn gyhoeddus hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno’n breifat â nhw.

“Mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi cymeradwyo datblygiadau tai, seilwaith canolfan ddata i gefnogi’r diwydiant AI a thechnoleg, rydym wedi cefnogi datblygiadau ynni gwynt ar y tir… rydym wedi cefnogi nifer o ddatblygiadau i gael ein gwlad i dyfu eto,” meddai Ms Reeves.

Mae disgwyl iddi gyhoeddi mewn araith wythnos nesaf ei bod yn cymeradwyo cynigion ar gyfer trydedd rhedfa ym maes awyr Heathrow, yn ogystal ag ehangu meysydd awyr Gatwick a Luton.

Mae angen “mwy o bositifrwydd” ar Brydain a dylai fod yn “gweiddi nerth ei phen” am ei chryfderau, meddai wrth y Times yn gynharach yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Llywodraeth wedi addo atal “blocwyr” a darparu 1.5 miliwn o gartrefi newydd, yn ogystal â sicrhau 150 o benderfyniadau ar brosiectau isadeileddau mawr erbyn diwedd y Senedd.

Hyd yn hyn, mae wedi gwneud 13 o benderfyniadau cynllunio ac wedi cymeradwyo naw prosiect isadeiledd o bwys cenedlaethol gan gynnwys meysydd awyr, ffermydd ynni a datblygiadau tai.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.