‘Dim ymchwiliad iawn’ i ryddhau negeseuon i'r wasg
Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru a gafodd ei diswyddo wedi i negeseuon gael eu rhyddhau i’r wasg wedi dweud nad oedd yna “ymchwiliad iawn” i’r mater.
Wrth siarad ar Politics Wales ddydd Sul dywedodd AS Delyn, Hannah Blythyn, bod angen dysgu gwersi a bod angen ymchwiliad gydag “elfen o annibyniaeth” yn y dyfodol.
Fe gafodd hi ei diswyddo gan y Prif Weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, fis Mai diwethaf ar ôl i wefan Nation.Cymru gyhoeddi negeseuon o sgyrsiau ar-lein yr oedd o wedi cyfrannu atyn nhw.
Roedd y negeseuon rheini a oedd yn dyddio o gyfnod pandemig Covid yn cynnwys neges gan Vaughan Gething yn dweud ei fod am ddileu sgwrs ddigidol.
Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd wrth ddiswyddo Hannah Blythyn ei fod yn amlwg fod y negeseuon rheini wedi dod o’i ffôn hi, a'i bod hi'n gyfrifol am ddiogelu ei data.
Yn ei chyfweliad teledu gyntaf ers y digwyddiad Sul dywedodd Hannah Blythyn na allai ateb cwestiynau am y mater am nad oedd ymchwiliad.
Dywedodd na fyddai “yn dymuno beth brofais i ar unrhyw un arall” ac mai “fy nealltwriaeth i oedd nad oedd yna ymchwiliad go iawn”.
“Does dim ffordd o newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond gallwn lunio’r dyfodol i feddwl pa brosesau sydd angen bod yn eu lle, o ran sut y caiff pobl eu trin o dan yr amgylchiadau hynny,” meddai.
“Mae angen sicrhau bod elfen o annibyniaeth pan fydd unrhyw ymchwiliadau yn cael eu cynnal.”
Ychwanegodd: “Fel ydych chi’n gwybod rydw i’n adlewyrchu ar beth ddigwyddodd y llynedd gyda llawer iawn o dristwch.
“Rydw i wedi bod yn agored iawn am sut oedd y llynedd yn anodd iawn i fi, a’r rheini oedd agosaf i fi hefyd.”
Cyfeiriodd Hannah Blythyn yn ôl at ddatganiad a wnaeth ar lawr y Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd.
Bryd hynny dywedodd wrth ei chyd-aelodau nad oedd hi “erioed wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth na briffio'r cyfryngau am unrhyw un ohonoch”.
"Tra nad wyf yn bwriadu rhannu'r holl fanylion, rwyf yn fodlon dweud wrthych fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses, wrth i mi golli fy rôl yn y Llywodraeth, sy'n cynnwys y ffaith na chefais weld unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo.
"Ni chefais wybod fy mod o dan ymchwiliad, ac nid ar unrhyw bwynt y cefais fy nghynghori fy mod o bosib wedi torri'r côd gweinidogol."
Mae Nation.Cymru, y safle newyddion a dderbyniodd y negeseuon, wedi dweud nad Hannah Blythyn oedd eu ffynhonnell.