Galw ar gynghorau i ystyried busnesau cyn codi tâl parcio
Galw ar gynghorau i ystyried busnesau cyn codi tâl parcio
Mae angen i gynghorau Cymru ystyried yr effaith ar fusnesau cyn cyflwyno newidiadau i ffioedd parcio.
Dyma neges Ffederasiwn y Busnesau Bach sy'n dweud bod y rhan fwyaf o fusnesau yn gweld parcio fel rhywbeth sy’n cael effaith ar eu llwyddiant.
Cyngor Bro Morgannwg ydy un o’r cynghorau diweddaraf i ddangos bwriad i gyflwyno tâl parcio mewn sawl ardal gan gynnwys tref glan môr Penarth ar gyrion Caerdydd.
Mae perchennog caffi Foxy’s Deli and Cafe, Sian Fox, yn poeni y byddai codi tâl parcio yn denu llai o gwsmeriaid i’r dref.
"Mae siopau'n cau bob wythnos ac i gyflwyno newid fel hyn bydd yn mynd yn waeth,” meddai.
"Mae'n rhaid iddyn nhw [y cyngor] gael arian i mewn rhyw ffordd ond ma’n nhw'n mynd i ddistrywio'r dre fi'n meddwl."
Y bwriad yw cyflwyno tâl parcio ger glan y môr gan ymestyn i fyny stryd 'Penarth Cliff Walk' gan gynnwys y maes parcio ar ben yr allt hefyd.
Mae'r cyngor yn edrych hefyd ar sawl ardal arfordirol arall ym Mro Morgannwg gan gynnwys Ynys y Barri.
Yn ôl y cyngor byddai cyflwyno’r tâl yn helpu i reoli traffig, a’r arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at waith cynnal a chadw ac i gefnogi gwasanaethau sydd yn hanfodol yn y lleoliadau hyn.
Dydi’r mater ddim yn unigryw i Fro Morgannwg. Mae’n ddadl sy’n codi’i phen ar draws Cymru, gyda Chyngor Ceredigion yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau diweddar i godi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn poeni am effaith cyflwyno newidiadau o’r fath ar fusnesau ac yn galw ar gynghorau Cymru i ystyried hynny cyn dod i benderfyniad.
Mae ymchwil gan y Ffederasiwn yn dangos bod y mwyafrif o fusnesau mewn trefi yng Nghymru yn ystyried parcio fel ffactor sy’n cael effaith ar lwyddiant eu busnesau.
Dywedodd Fflur Elin o’r sefydliad: “Mae’n bwysig bod cynghorau yn meddwl sut i wneud parcio yn hygyrch ac yn rhesymol o ran pris.
"Be' dydyn ni ddim mo'yn ydi bod cynghorau yn defnyddio parcio fel ffordd o wneud arian ar gyfer cyllidebau fwy cyffredinol cynghorau”.
Ar ôl cael eu cymeradwyo gan gabinet cyngor Bro Morgannwg, bydd y cynlluniau nawr yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd ac Adfywio mewn cyfarfod arbennig.