Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru'n ennill pleidlais y gyllideb yn absenoldeb dau AS Ceidwadol

Llywodraeth Cymru'n ennill pleidlais y gyllideb yn absenoldeb dau AS Ceidwadol

Enillodd Llywodraeth Cymru y bleidlais gyntaf ar ei chynlluniau gwario gwerth £26bn yn y Senedd ddydd Mawrth, a hynny yn absenoldeb dau aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Pleidleisiodd aelodau'r Senedd 29-26 o blaid cyllideb ddrafft 2025-26, gydag un yn ymatal, yn dilyn dadl yn y siambr.

Jane Dodds AS, unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd oedd yr aelod i ymatal yn y bleidlais.

Methodd yr ASau Ceidwadol Darren Millar a Russell George y bleidlais ar ôl gadael y wlad am gyfarfod gweddi yn Washington DC.

Gwrthododd Llafur, sydd gyda hanner y 60 o seddi y Senedd, gytuno i drefniant paru a fyddai wedi gweld rhai o’i haelodau’n peidio â phleidleisio o achos absenoldeb y ddau Geidwadwr.

Yn flaenorol gwrthododd y Ceidwadwyr baru pan fu dau aelod Llafur i ffwrdd yn sâl yn ystod pleidlais o ddiffyg hyder yn y cyn-brif weinidog Vaughan Gething ym mis Mehefin.

Roedd y bleidlais ddydd Mawrth yn un symbolaidd i raddau helaeth - yn wahanol i'r bleidlais hanfodol sydd i ddod ar 4 Mawrth.

Image
NS4C
Roedd Darren Millar AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn absennol o'r bleidlais gan ei fod yn yr UDA

Mae dal angen i weinidogion ddod i gytundeb gydag o leiaf un aelod o’r gwrthbleidiau i basio’r gyllideb derfynol a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 25 Chwefror.

Os na fydd cytundeb, byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i 75% o gyllideb y flwyddyn flaenorol i ddechrau, ac os na chaiff cynnig ei basio erbyn diwedd mis Gorffennaf, byddai hyn yn codi i 95%.

Bydd angen cytuno ar gyfraddau treth incwm Cymru, a fydd yn codi £3.4bn yn 2025/26, hefyd cyn y cynnig cyllidebol ar 4 Mawrth - neu byddai cyfraddau’n gostwng 10c yn y £1 i holl drethdalwyr Cymru.

Dywedodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford fod y gyllideb ddrafft yn darparu £1.5bn yn ychwanegol, gyda phob adran o Lywodraeth Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyllid cyfalaf a refeniw.

Dywedodd wrth y Senedd: “Mewn cyferbyniad llwyr â’r adeg hon y llynedd, rwyf wedi gallu rhoi hwb i bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru.”

Cododd Peredur Owen Griffiths, sy’n gadeirydd pwyllgor cyllid y Senedd, gryn dipyn o dystiolaeth am effaith codiad yswiriant gwladol Llywodraeth y DU ar gyflogwyr.

Galwodd hefyd am “lawr ariannu” i gau’r bwlch rhwng y cynghorau a wnaeth orau a gwaethaf yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol am 2025/26. 

Image
Heledd Fychan
Dywedodd Heledd Fychan AS, ysgrifennydd cyllid cysgodol Plaid Cymru, fod "gwleidyddiaeth aeddfed angen cydweithrediad", ag angen i bobl "droi fyny i bleidleisio".

Gydag arweinydd yr wrthblaid Darren Millar yn yr Unol Daleithiau ar gyfer cyfarfod gweddi cenedlaethol oedd yn cynnwys yr Arlywydd Donald Trump, arweiniodd Sam Rowlands ymateb y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd ysgrifennydd cyllid yr wrthblaid fod chwarter canrif o gyllidebau Llafur yng Nghymru wedi arwain at restrau aros hiraf y GIG a’r canlyniadau addys gwaethaf yn y DU.

Rhybuddiodd Mr Rowlands fod cwmnïau Cymreig yn wynebu'r trethi busnes uchaf ym Mhrydain wrth iddo feirniadu gwariant ar y terfyn gyrru 20mya a mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Beirniadaodd gydweithredu Plaid Cymru gyda'r Llywodraeth Lafur yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd.

 Dywedodd Heledd Fychan, ysgrifennydd cyllid cysgodol Plaid Cymru: “Mae ef [Mr Rowlands] yn gallu siarad ar ran ei blaid ond yn sicr ni all bleidleisio ar ran y ddau aelod coll.”

Ychwanegodd: “Mae’r ffaith bod dau aelod ar goll o’u meinciau heddiw yn dweud wrthych chi’r cyfan sydd angen i chi ei wybod am beth maen nhw’n ei feddwl o Gymru mewn gwirionedd.”

Ar ôl i'w phlaid gael ei chyhuddo o “gynnal” Llafur am dair blynedd, yatebodd Ms Fychan: “Mae gwleidyddiaeth aeddfed angen cydweithrediad – mae hefyd angen troi i fyny i bleidleisio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.