Newyddion S4C

'Calon enfawr': Teyrnged i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam

Steven Barry Ellis

Mae teulu dyn 56 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Steven Barry Ellis yn y fan a'r lle nos Sul mewn gwrthdrawiad ar yr A534 Ffordd Wrecsam.

Dywedodd ei frawd Wayne a'i chwaer Debra y bydd pawb oedd yn adnabod Steven yn ei golli.

"Roedd Steven yn dioddef am nifer o flynyddoedd gyda phroblem lle'r oedd yn gaeth i sylweddau ac roedd yn gwella ei fywyd tan yn ddiweddar iawn.

"Roedd gan Steven galon enfawr ac fe fydd yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei adnabod."

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad oedd yn cynnwys dau gerddwr a dau gerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerddwr, car a lori ar yr A534 ger yr Holt Lodge Inn ar Ffordd Wrecsam ychydig ar ôl 19:00 nos Sul.

Mae dyn arall yn yr ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.

Dywedodd Sarjant Stephen Richards o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu Mr Ellis' yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddog arbennig."

Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn parhau ac yn annog i unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio neu gerdded ar hyd Ffordd Wrecsam neu'r Holt Lodge Inn ac sydd efo gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu â'r llu.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar wefan yr heddlu neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 25000089738.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.