Arbenigwyr yn honni 'nad oes tystiolaeth' bod Lucy Letby wedi lladd babanod
Mae euogfarnau’r llofrydd plant Lucy Letby wedi cael eu disgrifio fel “un o anghyfiawnderau mwyaf y cyfnod modern” gan ei thîm cyfreithiol.
Bydd ei hachos yn cael ei adolygu gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC), sy’n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder, ar ôl i gyfreithwyr Letby wneud cais i’r corff hwnnw.
Mae Letby, 35 oed o Henffordd, wedi ei dedfrydu i 15 o ddedfrydau am oes ar ôl iddi gael ei chanfod yn euog o lofruddio saith baban a cheisio lladd chwe baban arall, gan geisio lladd un ohonynt ar ddau achlysur.
Digwyddodd y troseddu rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Clywodd Llys y Goron Manceinion bod Letby wedi ymosod ar y babanod drwy wahanol ddulliau tra roedd hi’n gweithio fel nyrs yn yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Countess of Chester.
Chwistrellodd aer i lif gwaed un baban a achosodd emboledd aer a rwystrodd y cyflenwad gwaed gan achosi cwympaidau sydyn ac annisgwyl.
Fis Rhagfyr, dywedodd tîm cyfreithiol Letby eu bod yn galw ar y Llys Apel i adolygu ei holl euogfarnau, gan ddweud bod prif dyst yr erlyniad, y Cymro Dr Dewi Evans yn "annibynadwy" a'i fod wedi "newid ei feddwl am achos marwlaeth tri o'r babanod".
Mewn cyfweliad egsgliwsif gyda Newyddion S4C, mae Dr Evans wedi dweud bod y sylwadau yna yn "rhyfeddol, di-sail ac anghywir".
Dywedodd y cyn ymgynghorydd ysbyty mewn gofal plant mai'r unig newid mae e wedi ei gyflwyno ydy cadarnhau dyddiad marwolaeth babi C.
Adroddiad newydd
Ddydd Mawrth, dywedodd y meddyg, Dr Shoo Lee, a oedd yn gyd-awdur papur academaidd 1989 ar emboledd aer mewn babanod, bod canfyddiadau panel o 14 o arbenigwyr wedi eu gwneud ar “adroddiad diduedd s’yn seiliedig ar dystiolaeth”.
Eglurodd ei fod yn cyflwyno’r adroddiad hwn er mwyn rhoi’r “cysuro o sicrwydd o wybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.”
Aeth drwy’r achosion lle roedd Lucy Letby wedi ei chael yn euog o lofruddio neu anafu’r babanod, gan adrodd pam bod yr arbenigwyr yn credu nad hi oedd yn gyfrifol am eu marwolaeth.
Gan ddyfynu babi un, bachgen a gafodd ei eni cyn ei amser a lewygodd ddau ddiwrnod ar ôl cael ei eni, gydag afliwiad croen ac nad ymatebodd i ddadebru.
Dywedodd mai'r honiad yn erbyn Letby oedd iddi chwistrellu aer i'w wythiennau gan achosi cwymp ac yna ei farwolaeth.
Dywedodd Dr Lee fod yr erlyniad yn yr achos wedi defnyddio papur yr oedd wedi'i ysgrifennu ym 1989, ond dywedodd ei fod wedi gwahaniaethu rhwng aer mewn gwythiennau ac aer mewn rhydwelïau.
Dywedodd wrth y wasg: “Yn yr achosion lle roedd aer yn cael ei chwistrellu yn y gwythiennau nid oedd unrhyw achosion o afliwio anghyson ar y croen. Felly nid oes unrhyw dystiolaeth mewn gwirionedd i’r syniad y gall y babanod hyn gael diagnosis o emboledd aer oherwydd eu bod wedi cwympo a bod ganddynt y lliwiau croen hyn.”
Dywedodd wrth newyddiadurwyr mai canfyddiad yr arbenigwyr oedd: “Does dim tystiolaeth feddygol i gefnogi’r honiad bod camymddwyn wedi digwydd ym marwolaeth neu anaf yn unrhyw un o’r 17 achos yn y treial.
“Ni ddaethom o hyd i unrhyw lofruddiaethau. Ym mhob achos, achosion naturiol neu ofal meddygol gwael yn unig oedd yn gyfrifol am bob marwolaeth neu anaf.”
“Roedd problemau difrifol yn ymwneud â gofal meddygol cleifion yn yr ysbyty hwn.”
“Ac os na chafodd unrhyw drosedd ei chyflawni,” ychwanegodd, “mae hynny’n golygu bod dynes 34 oed ar hyn o bryd yn eistedd yn y carchar am weddill ei hoes am drosedd na ddigwyddodd.”
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol: “Rydym yn ymwybodol bod llawer iawn o ddyfalu a sylwebaeth wedi bod ynglŷn ag achos Lucy Letby, llawer ohono gan bleidiau sydd â barn rannol yn unig o’r dystiolaeth.
“Gofynnwn i bawb gofio’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiadau yn Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.”