Newyddion S4C

'Angen dysgu gwersi o Ysgol Dyffryn Aman’ medd Comisiynydd yr Heddlu

04/02/2025
Dafydd Llywelyn

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud bod angen “dysgu gwersi” o’r hyn ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd Dafydd Llywelyn ei fod yn cytuno gyda sylwadau Fiona Elias y tu allan i Lys y Goron Abertawe ddydd Llun fod angen gweithredu fel nad oedd ymosodiad o’r fath yn digwydd eto.

Roedd “pethau’n gwaethygu i ryw raddau” o ran digwyddiadau o’r fath, meddai.

Cafodd merch, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, ei dyfarnu’n euog o dri chyfrif o geisio llofruddio ddydd Llun. 

Roedd y ferch wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.

Wrth i’r broses gyfreithiol am drywanu Ysgol Dyffryn Aman ddod i ben roedd cyfle i’r heddlu, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ddod at ei gilydd i drafod newidiadau, meddai Dafydd Llywelyn.

Daw ei sylwadau diwrnod wedi i fachgen 15 oed farw ar ôl cael ei drywanu mewn ysgol yn Sheffield.

Dywedodd wrth Radio Cymru ei fod yn amlwg bod ymddygiad o fewn ysgolion yn “broblem gynyddol”.

“Mae yna swyddogion gan Heddlu Dyfed-Powys sy’n ymgysylltu gydag ysgolion i gefnogi athrawon a staff i ddelio gyda digwyddiadau o’r math yma,” meddai.

“Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol sydd ddim yn digwydd yn aml ond mae angen dysgu gwersi i sicrhau ei fod ddim yn digwydd eto.

“Mae pethau’n gwaethygu i ryw raddau. Rydw i’n clywed straeon - mae fy ngwraig yn athrawes a’n chwaer yn athrawes yng Nghaerdydd hefyd.

“Fe fydda i’n estyn mas i Fiona Elias nawr gan ei bod hi wedi gofyn i gael cwrdd gyda gweinidogion a swyddogion ym maes addysg, i weld sut alla i helpu.

“I sicrhau ein bod ni’n cael y drafodaeth hynny a bod llais dioddefwr yn cael ei chlywed hefyd.

“Mae’n bwysig bod unigolion sydd wedi bod trwy’r trawma ac wedi bod drwy'r math yma o brofiadau yn cael y cyfle i siarad â phobl sy’n creu polisi yn y maes.

Dywedodd bod angen gyrru neges gref at ddisgyblion a rhieni nad oedd ysgolion yn barod i oddef ymddygiad o’r fath.

“Mae angen edrych ar bolisi mewn ysgolion ac ym maes addysg hefyd ynglŷn ag oes angen gwahardd pobl o ysgolion ar ambell i achlysur,” meddai.

"A sicrhau bod adnoddau o fewn awdurdodau lleol i ddelio a phobl mewn ffordd broffesiynol i roi help hefyd i’r unigolion hyn sydd efallai yn dangos ymddygiad treisgar sydd ddim yn dderbyniol.”

Dywedodd nad oedd yn teimlo bod angen chwilio bagiau plant tu hwnt i ambell i achlysur, pan oedd gwybodaeth yn dod i law bod angen gwneud hynny.

“Byddwn i ddim yn anwybyddu unrhyw fath o ymateb achos yn y pen darw diogelwch plant ac athrawon o fewn ein hysgolion yw’r peth mwyaf pwysig,” meddai.

‘Annerbyniol’

Wrth siarad y tu allan i’r llys ddydd Llun dywedodd Fiona Elias bod yr euogfarn yn “ddyfarniad mor bwysig, nid yn unig i fi, ond i bob athro”.

“Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo’n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd a gofyn i ddisgyblion gyd-ymffurfio gyda rheolau’r ysgol,” meddai.

“Hoffwn wahodd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i gwrdd â mi er mwyn cynnal trafodaethau, gan fy mod am sicrhau nad oes unrhyw aelod o staff yn mynd trwy’r hyn yr aeth Liz a finnau trwyddo ym mis Ebrill y llynedd.

“Mae trais geiriol a chorfforol tuag at aelodau staff yn gwbl annerbyniol, ac mae’n rhaid sicrhau nad yw’r digwyddiad hwn yn digwydd eto yn unman arall.

“Dylid ystyried y dyfarniad hwn heddiw fel neges glir i ddisgyblion ledled y wlad."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Llun eu bod "yn cymryd y mater o ddiogelwch yn yr ysgol wir o ddifri'".

Bydd Cynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y gwanwyn "i ddod ag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau at ei gilydd i drafod diogelwch staff a disgyblion,” medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.