Penderfynu 'dirwyn i ben' dwy ganolfan gofal dydd yng Nghricieth a Blaenau Ffestiniog
Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu "dirwyn i ben" dwy ganolfan gofal dydd i‘r henoed yng Nghricieth a Blaenau Ffestiniog er mwyn cynnig “gwasanaeth gofal amgen”.
Nid oedd y cyngor wedi cynnig y gwasanaethau gofal yn Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog, nac yn Encil y Coed, Cricieth, ers i’r pandemig ddechrau tua phum mlynedd yn ôl.
Yn ôl y cyngor, roedd yr “heriau” a wynebwyd o ganlyniad i Covid-19 wedi rhoi “cyfle” iddynt ailystyried ei darpariaeth gofal dydd ac roedd “dibyniaeth gynyddol” ar gymorth amgen yn y gymuned ac yn y cartref”.
Mewn cyfarfod cabinet y cyngor dydd Mercher, trafodwyd bod “llai o alw” bellach am y mathau mwy “traddodiadol” o wasanaethau gofal dydd i oedolion, gyda dewisiadau mwy pwrpasol ar gyfer unigolion yn cael eu ffafrio.
Cytunodd gweddill y cyngor gyda’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, wrth iddo ddweud y dylai “adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gau Y Ganolfan, Blaenau Ffestiniog ac Encil y Coed, Cricieth, a gwasanaethu mewn ffordd amgen.”
Cyniogiodd hefyd y dylai'r cyngor gefnogi'r adran wrth iddi "barhau i gydweithio gyda grwpiau cymunedol a’r trydydd sector i gefnogi unigolion yn yr ardaloedd hyn yn eu cartrefi a thrwy ddefnyddio a chefnogi datblygiad gwasanaethau amgen o fewn y cymunedau".
'Symud ymlaen'
Mae adeilad Encil y Coed yng Nghricieth yn eiddo i Gyngor Gwynedd ac yn gartref i Lyfrgell Cricieth, tra bod Y Ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog yn eiddo i grŵp cymunedol lleol lle mae Cyngor Gwynedd wedi rhentu lle yno yn y gorffennol.
Roedd cymorth amgen hefyd yn cael ei gynnig, meddai'r cyngor, trwy gyfuniad o wasanaethau iechyd, gofal cartref, gwasanaeth cymorth dementia, gofal dydd arbenigol megis Canolfan Iechyd Blaenau Ffestiniog a Hafod Hedd, Bryn Beryl, gweithgareddau wythnosol Dementia Actif, sesiynau gan hwb cymunedol Y Dref Werdd ac Age Cymru.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod cymuned Cricieth yn llwyddo i gynnal ei gweithgareddau ei hun, ac mae’n “ymddangos nad oes cymaint o alw am ddarpariaeth gofal dydd traddodiadol”.
Roedd gwaith ar y gweill hefyd i edrych ar sut y gellid sefydlu darpariaeth neu systemau gwybodaeth cyfleus, o fewn adnoddau presennol yr ardal, a chyfle i drafod opsiynau partneriaeth gyda’r trydydd sector.
Dywedodd y Cyng. Morgan, yn dilyn cyfarfodydd gyda’r aelod lleol yng Nghricieth, fod trigolion “wedi ffafrio datblygu gwasanaethau gwahanol, yn lle’r gweithgareddau canolfan dydd traddodiadol a fu yn Encil Y Coed a bod gwaith yn parhau i symud pethau ymlaen”.
Ac ym Mlaenau Ffestiniog, dywedodd: “Mae gan yr aelod lleol ddiddordeb arbennig yn y Ganolfan ac rydym yn edrych i weld sut y gallwn ni fel cyngor weithio gyda’r ymddiriedolwyr i symud pethau ymlaen yn yr adeilad hwnnw”.