Ffliw adar: Llywodraeth Cymru yn ‘monitro'r sefyllfa’ wedi cyfyngiadau newydd yn Lloegr a'r Alban
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “monitro’r sefyllfa” wedi i gyfyngiadau llym er mwyn atal ffliw adar ddod i rym ar draws Lloegr a’r Alban.
Daeth Parth Atal Influenza Adar (AIPZ) cenedlaethol i rym yn Lloegr a’r Alban ganol dydd ddydd Sadwrn, gan orfodi pawb sy’n cadw adar i’w cadw dan do a dilyn rheolau llym.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn monitro'r sefyllfa yn Lloegr yn agos.
“Mae pob ceidwad adar yn cael eu hannog i gynnal lefelau uchel o hylendid a bioddiogelwch ar bob adeg i ddiogelu eu heidiau.
"Ni chadarnhawyd unrhyw achosion o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.
"Fodd bynnag, mae'r gofyniad am AIPZ cenedlaethol yn cael ei adolygu'n gyson.”
Mae’r firws hynod heintus yn lledaenu ymhlith adar gwyllt. Er bod y risg i iechyd dynol yn isel, mae Llywodraeth y DU wedi annog pawb i gadw llygad am unrhyw arwyddion o’r clefyd.
Dywedodd yr NFU bod achosion o ffliw adar yn gallu cael effaith emosiynol ac ariannol enfawr ar deuluoedd ffermio.
“Rydym yn falch bod y llywodraeth wedi gweithredu’n brydlon ar y mater hwn i amddiffyn y ddiadell genedlaethol gydag AIPZ yn cael ei weithredu ar draws Lloegr a’r Alban,” meddai cadeirydd bwrdd dofednod yr NFU, James Mottershead.
“Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddilyn yn fuan.”
Mae rhagor o gyngor ar wefan Llywodraeth Cymru.