Bangor o Amgylch y Byd: Taith fyd-eang yn cyrraedd Storiel
Mae arddangosfa wedi’i hagor ym Mangor sy’n uno pob Bangor o bob cwr o’r byd.
Agorodd yr arddangosfa’n swyddogol ddydd Iau 23 Ionawr yn Oriel Storiel ym Mangor fel rhan o ddathliad pen-blwydd y ddinas yn 1500 oed.
Bwriad yr arddangosfa yw i ddathlu hanes cyffredin ac unigryw bob Bangor ledled y byd, gan roi’r cyfle i ymwelwyr bori drwy ffotograffau, hanesion hanesyddol, a straeon personol yr holl lefydd o'r enw Bangor.
Mae yna 22 Bangor ar draws y byd, mewn chwe gwlad gwahanol gan gynnwys UDA, Awstralia, Hwngari a Ffrainc.
Yn ogystal â’r arddangosfeydd gweledol, bydd disgrifiadau cynhwysfawr ar gyfer pob Bangor ar gael mewn dogfen ger yr arddangosfa, a gall ymwelwyr hefyd fynd â thaflenni gartref i fynd i’r afael yn ddyfnach â hanes y lleoedd hyn.
‘Taith anhygoel’
Dywedodd Cynghorydd Dinas Bangor, Eirian Williams Roberts bod y gwaith ymchwilio wedi bod yn “daith anhygoel”.
“Rwyf wedi dysgu cymaint, nid yn unig am y Bangor eraill, ond hefyd am y bobl sy’n galw’r lleoedd hynny’n gartref.”
“Mae’r straeon, yr hanesion, a hyd yn oed bywydau bob dydd pobl yn y Bangor hyn mor hynod ddiddorol. “
Dywedodd Eirian bod pobl yn gofyn iddi’n aml: ‘Faint o Fangor arall sydd, a ble maen nhw?’.
“Mae wedi bod mor werth chweil gallu ateb y cwestiwn hwnnw,” meddai, “ac i rannu straeon y lleoedd unigryw hyn gyda phobl ein Bangor ein hunain yma yng Ngwynedd."
Arweiniodd y broses ymchwil at lawer o gysylltiadau personol hefyd - "Roedd gan bawb roeddwn i’n siarad â nhw ymdeimlad dwfn o falchder yn eu Bangor," eglurodd Eirian.
‘Rhychwantu ffiniau’
"Boed yn byw ym Mangor, Gwynedd, neu ym Mangor, Maine, mae’r cysylltiad â’r enw a’i hanes yn ein huno mewn ffordd sy’n rhychwantu ffiniau.
“Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd, ac mae eu brwdfrydedd dros ddathlu eu cymunedau eu hunain wedi bod yn ysbrydoledig iawn."
Mae’r Arddangosfa Bangor o Amgylch y Byd yn mynd i fod yn rhedeg trwy gydol 2025, ac yn newid yn barhaus drwy ganolbwyntio ar Fangor gwahanol bob mis.
“O’r ymsefydlwyr Cymreig a gludodd yr enw Bangor i fyd newydd, i Fangorianiaid modern sy’n dathlu eu treftadaeth gyffredin, mae’r arddangosfa hon yn deyrnged i etifeddiaeth barhaol yr enw.”
Dywedodd Eirian ei fod wedi bod yn “waith caled iawn” i ddod â phopeth at ei gilydd.
“Ond mae wedi bod yn werth pob eiliad...mae’n fraint gallu dod â hyn i gyd at ei gilydd mewn un lle i eraill ei fwynhau," meddai.
“Dewch i ddathlu ysbryd Bangor - lle bynnag y bo yn y byd - a gweld sut gall un arddangosfa fechan ddod â straeon o bob cwr o’r byd ynghyd.”
Llun: Esther Elin Roberts a Rhys Lloyd Jones o Storiel yn sefyll wrth ymyl Arddangosfa Bangor o Amgylch y Byd.