Newyddion S4C

Ffermwyr ar draws y DU yn protestio dros newidiadau i drethi etifeddiant

Ffermwyr ar draws y DU yn protestio dros newidiadau i drethi etifeddiant

Mae tractorau wedi gyrru drwy ganol Caerdydd heddiw fel rhan o ddiwrnod o brotestiadau gan ffermwyr, wrth i'r ffrae ynglŷn â newidiadau i dreth etifeddiant barhau.    

Cafodd digwyddiadau eu cynnal hefyd yn Aberystwyth, Llambed, Y Fenni a Bangor - ac ar draws y Deyrnas Unedig. 

Roedd ffermwyr wedi ymgasglu mewn lleoliadau ar draws y Deyrnas Unedig heddiw i brotestio yn erbyn y diwygiadau i drethi etifeddiant y Llywodraeth a fyddai, medden nhw, yn “dinistrio” sector amaethyddol y wlad.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ddydd Sadwrn fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Undod, fel y'i gelwir, gyda ffermwyr yn dod â bwyd, tractorau a da byw i ganol trefi ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar ôl i ddeiseb a oedd wedi’i harwyddo gan fwy na 270,000 o aelodau’r cyhoedd gael ei chyflwyno i 10 Stryd Downing ddydd Gwener.

Llywydd yr NFU, Tom Bradshaw a llywydd NFU Cymru, Aled Jones, wnaeth gyflwyno’r ddeiseb sy’n annog y Llywodraeth i ddileu’r hyn y maen nhw’n ei ddisgrifio fel y “dreth fferm sy’n dinistrio teuluoedd”.

Dywedodd Rachel Hallos, ffermwr da byw o’r South Pennines ac is-lywydd NFU ei bod yn gobeithio y byddai’r digwyddiadau yn “codi ymwybyddiaeth” o effaith y diwygiadau arfaethedig i dreth etifeddiant ar fusnesau ffermio, ac yn gwthio’r Llywodraeth i adolygu ei phenderfyniad.

“Bydd y newidiadau i dreth etifeddiant yn dirywio’r hyn sydd gennym ni yn y wlad hon ar hyn o bryd, ac rydym yn poeni’n fawr amdano.”

“Heddiw, rydym yn dweud wrth bobl pam ein bod ni mor bryderus a cheisio egluro pa mor gymhleth yw’r gadwyn cyflenwi bwyd, oherwydd ei bod hi mewn gwirionedd, ac mai ffermwyr ar ddechrau’r gadwyn gyflenwi bwyd honno.”

Eglurodd ei bod hi’n derbyn y bydd aelodau o’r cyhoedd yn ei beirniadu ac yn dweud y bydd ffermwyr yn iawn yn eu “ffermdai mawr a’r holl dir sy’n eiddo” iddyn nhw.

Ond, dywedodd mai eu hasedau ydi’r rheiny, ac na fydden nhw’n eu gwerthu, “felly mae’n gymhleth, ac rydyn ni’n ceisio egluro hynny i rai aelodau o’r cyhoedd sydd ddim yn deall yn iawn pam rydyn ni’n gwneud cymaint o sŵn am hyn.”

Ychwanegodd: “Nid ydym yn credu mewn gwirionedd bod y Llywodraeth yn deall cymhlethdod yr hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad a pha mor gydgysylltiedig yw’r holl fusnesau gwledig hynny”

“Mae fel dec o gardiau – os tynnwch un o’r cardiau hynny allan, daw’r holl beth i lawr”.

Gan gyfeirio at y ddeiseb a gyflwynwyd i 10 Downing Street ddydd Gwener, dywedodd Ms Hallos: “Rydym eisoes wedi gweld cefnogaeth gyhoeddus enfawr.”

“Rydym am i’r gefnogaeth honno dyfu… a gobeithio bod y Llywodraeth o’r diwedd yn sylweddoli bod angen iddynt eistedd i lawr a chael sgwrs gyda ni.” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran NFU: “Mae’r digwyddiadau yn ymwneud â mynd allan i’r cyhoedd yng nghanol trefi a diolch iddynt am eu cefnogaeth, gan eu hannog i barhau i gefnogi ffermio.”

“Mae cael ein gweld yn atgoffa pobl bod y broblem, yn dal i fod yno”.

'Cytbwys'

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae ein hymrwymiad i ffermwyr yn parhau’n ddiysgog.

“Bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £5 biliwn mewn ffermio dros y ddwy flynedd nesaf, y gyllideb fwyaf yn hanes ein gwlad ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy.”

“Bydd ein diwygiad yn golygu y bydd ystadau’n talu cyfradd treth etifeddiant lai o 20%, yn hytrach na 40% safonol, a gellir gwneud y taliadau dros 10 mlynedd, yn ddi-log.”

“Mae hwn yn ddull teg a chytbwys, sy’n trwsio’r gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, gan effeithio ar tua 500 o ystadau’r flwyddyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.