
Cydnabyddiaeth yn y byd busnes i swyddfa bost a chaffi sy’n hybu’r Gymraeg
Mae Swyddfa Bost a chaffi sy’n hybu’r Gymraeg yn Sir Gâr wedi derbyn canmoliaeth a chydnabyddiaeth gan y byd busnes mewn seremoni wobrwyo nodedig.
Roedd Swyddfa Bost Capel Hendre wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnes Bae Abertawe.
Mewn seremoni yn Neuadd y Brangwyn nos Wener fe dderbyniodd y busnes wobr o ‘Ganmoliaeth Uchel’ yng nghategori Busnes Manwerthu y Flwyddyn.
Sefydlodd Vipul ‘Vips’ Parekh a’i wraig Aran y busnes ar ôl symud i’r pentref gyda’u thri phlentyn rhyw bedair blynedd yn ôl o ardal Birmingham.
Ym mis Hydref fe agorodd y ddau gaffi newydd o fewn y Swyddfa Bost er mwyn “hybu’r Gymraeg” a rhoi lle i bobl leol “gyfarfod a siarad”.
Bwriad ‘Paned ar y Sgwâr – Calon Hendre’ yw rhoi lle clud i bentrefwyr gyfarfod i sgwrsio, cael cwmni a hefyd hybu’r Gymraeg.
Mae’r teulu wedi ymdoddi i’r gymuned gyda Vips ac Aran wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg a’r plant yn ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg leol a bellach yn siarad yr iaith.

Dywedodd Vips wrth Newyddion S4C ar ôl derbyn y wobr: “Rydyn ni’n teimlo’n freintiedig i dderbyn y wobr a chydnabyddiaeth y beirniaid.
"Fe symudodd y teulu i redeg Swyddfa Bost Capel Hendre i bentref ac ardal sy’n falch o’r gwreiddiau glofaol, diwylliant Cymreig a'r iaith.
"Fe wnaethon ni barchu hyn a gyda chymorth ein cwsmeriaid yn bwydo geiriau ac ymadroddion i ni bob dydd rwy nawr yn medru cynnal sgwrs yn y Gymraeg.
"Mae'r pentrefwyr, ein cyflenwyr a’r busnes wedi ein cofleidio ac mae’r Swyddfa Bost, siop a’r caffi wedi ffynnu.
"Diolch o galon am y cyfle."