Newyddion S4C

Tri yn eu harddegau wedi marw wedi i gar daro coeden yn Wakefield

25/01/2025
Heddlu (Lloegr)

Mae tri yn eu harddegau wedi marw a pedwerydd yn dioddef o anafiadau difrifol ar ôl i gar daro coeden yn Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog.

Roedd Seat Ibiza du yn teithio ar Bramley Lane, ger pentref West Bretton, pan adawodd y ffordd a tharo coeden tua 20:30 dydd Gwener, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Bu farw’r gyrrwr 18 oed a dau deithiwr 19 oed, tra bod dau ddyn arall a oedd yn y car wedi eu cludo i’r ysbyty.

Dywedodd yr heddlu bod un mewn cyflwr difrifol a bod gan y llall anafiadau na chredir eu bod yn rhai sy’n bygwth bywyd.

Mae trigolion y ddinas wedi dweud bod “llawer o weithgarwch” ar y safle tua 21:00 nos Wener wrth i’r gwasanaethau brys a’r heddlu fynd i’r lleoliad.

“Sylwais fod rhywfaint o gynnwrf gyda hofrennydd yr heddlu a seirenau,” meddai dyn busnes lleol.

Wrth siarad am farwolaethau’r tri, dywedodd: “Mae hynny’n drasiedi. Ofnadwy”.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd James Entwistle o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi arwain at golli tri bywyd a phedwerydd person yn dioddef anafiadau difrifol.

“Rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd y rhai dan sylw ac rydym yn gweithio gyda nhw i gynnig cefnogaeth,” meddai.

“Mae ein hymchwilwyr gwrthdrawiadau arbenigol yn ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad angheuol hwn a byddwn yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y car dan sylw neu a allai fod â chamera dash neu luniau fideo eraill a fydd yn helpu ein hymholiadau i gysylltu â ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.