Newyddion S4C

Terfyn cyflymder 20mya Cymru 'yn ffactor' wrth ddod â phris yswiriant i lawr

Terfyn cyflymder 20mya Cymru 'yn ffactor' wrth ddod â phris yswiriant i lawr

Mae terfyn cyflymder 20mya Cymru “yn ffactor” sydd wedi dod â phris yswiriant ceir i lawr yn ôl un cwmni yswirio.

Cafodd y terfyn cyflymder ei gyflwyno ym mis Medi 2023 gan Lywodraeth Cymru gan ostwng cyflymder uchaf bron i draean o lonydd Cymru. 

Yn ôl Prif Weithredwr cwmni yswirio Confused.com, Steve Dukes, mae wedi arwain at y gostyngiad mwyaf mewn prisiau yswiriant dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae pris yswirio car wedi gostwng 16% yn ne Cymru a 14% yn y canolbarth a’r gogledd dros y 12 mis diwethaf, meddai’r cwmni.

“Mae rhai yswirwyr yn y DU wedi sylwi bod y nifer sy’n hawlio ar yswiriant yn is mewn ardaloedd lle mae parthau 20mya wedi’u cyflwyno,” meddai Steve Dukes.

“Er bod nifer o yrwyr yn teimlo bod y parthau yma’n eu harafu nhw, mae’n beth da i weld yr effaith bositif maen nhw’n creu o ran y costau ar yrwyr.”

‘Llai o ddamweiniau’ 

Ar gyfartaledd, y pris am bolisi yswiriant car blynyddol yn y DU ydy £834, yn ôl ffigyrau Confused.com.

Cymru yw’r wlad sydd â’r prisiau yswiriant ceir rhataf yn y DU, gyda phris cyfartalog o £624 y flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol ac Arbenigwr Moduro’r cwmni, Rhydian Jones wrth ITV Cymru: 

“Y pris cyfartaledd i yrwyr yng Nghymru yw £624, sy’n rhatach i gymharu â chyfartaledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ac mae yna sawl rheswm am hyn,” meddai.

“Wrth gwrs mae ffactorau fel oedran yn rhan o hynny, ond mae yna fwy o ardaloedd 20mya yng Nghymru, ac mae’n debygol ei fod yn ffactor wrth ystyried fod yna lai o ddamweiniau.”

Ychwanegodd bod prisiau yswiriant wedi bod yn uwch cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder oherwydd “roedd mwy o ddamweiniau wedi eu hadrodd ac mae’r gost wedi bod yn uchel wrth atgyweirio’r difrod yna.”

Mae ystadegau gan GanBwyll wedi awgrymu bod llai o ddamweiniau difrifol a llai o anafiadau ar y lonydd lle mai'r terfyn wedi gostwng i 20 mya.

Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi galw am newid nifer o’r terfynau cyflymder yn ol i 30mya.

Dywedodd yr AS Sam Rowlands, llefarydd ei blaid ar Ogledd Cymru, yr wythnos hon ei fod eisiau gweld y terfynau “disynnwyr a gwallgof” yn newid.

“Llofnododd bron i hanner miliwn o bobl yng Nghymru ddeiseb yn erbyn y newid ond anwybyddwyd hyn yn llwyr gan Lywodraeth Cymru ac fe wnaethant fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau,” meddai.

“Mae wedi cael effaith ar y cyhoedd, gwasanaethau, busnesau a’r economi.”

Llun: Rhydian Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.