Storm Herminia: Mwy o dywydd garw ar y ffordd ar ôl Storm Éowyn
Mae rhagor o dywydd garw ar y ffordd dros y penwythnos a dydd Llun wrth i’r gwaith barhau i adfer pwer i bron filiwn o gartrefi yn y DU ar ol Storm Éowyn.
Mae Storm Herminia wedi ei henwi a mae disgwyl iddi gyrraedd ddydd Sul gyda rhybuddion melyn newydd wedi eu cyhoeddi yng Nghymru.
Yn ôl cwmni Scottish Power roedd 5,000 o gwsmeriaid yng Nghymru heb drydan fore dydd Sadwrn ar ôl i rybudd oren ‘perygl i fywyd’ yng ngogledd Cymru ddod i ben nos Wener.
Roedd yna wyntoedd o hyd at 93mya ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd fore Gwener, ac roedd degau o ysgolion ar gau ar draws siroedd y gogledd – gyda 65 ar gau yng Ngwynedd a bob un ar gau ar Ynys Môn.
Dyma oedd un o'r stormydd cryfaf ers degawdau yn Iwerddon a'r Alban a bu farw un dyn ar ôl i goeden daro ei gar yn Swydd Donegal.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn storm “eithriadol” ac efallai'r cryfaf i daro rhai rhannau o'r DU "ers 20 i 30 mlynedd".
Yn yr Alban mae'r holl wasanaethau tren wedi eu canslo nes prynhawn dydd Sadwrn.
Mae rhybudd o rew i rannau o Gymru fore dydd Sadwrn cyn rhagor o rybuddion am wynt a glaw ddyddiau Sadwrn a Sul.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1882851194873212988
Y rhybuddion
· Rhybudd rhew rhwng 3.00 a 10.00 ddydd Sadwrn yn siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.
· Rhybudd gwynt rhwng 8.00 a 15.00 ddydd Sadwrn i bob sir yng Nghymru.
· Rhybudd glaw rhwng 8.00 ddydd Sul a 6.00 ddydd Llun ym mhob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn.
Gallai hyd at 80mm o law syrthio mewn rhannau o Gymru a Lloegr, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd Jonathan Vautrey y bydd system gwasgedd isel arall yn symud o gyfeiriad y de orllewin ddydd Sul.
“Bydd hyn yn dod â glaw trwm i mewn ar gyfer de-orllewin Lloegr a Chymru ac o ganol y bore ymlaen, bydd hynny’n lledu i Ogledd Iwerddon a gogledd Lloegr yn y prynhawn.
“Ni fydd y gwyntoedd mor gryf â Storm Éowyn,” meddai ond fe fyddwn nhw’n fwy deheuol.