Staff Ysbyty Treforys dan bwysau eithriadol o ddydd i ddydd
Staff Ysbyty Treforys dan bwysau eithriadol o ddydd i ddydd
Mae hi'n ganol prynhawn ac Uned Frys Ysbyty Treforys dan ei sang Gyda chleifion ym mhob twll a chornel a staff yn rhuthro o un man i'r llall.
"Y ffordd orau i esbonio yw fel sinc yn llanw lan gyda dŵr a mae'r plwg mewn a ti ffaelu tynnu fe mas.
"Mae cleifion yn dod mewn gyda symptomau cronig fel respiratory a COBD, ac mae'r ffliw yn gwneud pethau'n waeth."
Dyle neb yn ôl y targedau aros mewn uned frys am dros 12 awr ond mae llawer wedi bod yma'n hirach na hynny ac un claf yn aros am bum niwrnod.
"Yn anffodus, ni'n gyfarwydd a diwrnodau fel hyn erbyn hyn.
"Mae lot o ambulances tu fas gyda chleifion ynddyn nhw. "Mae lot o gleifion mewn trolley bays a llefydd na ddylai nhw fod.
"Mae popeth ddim yn reit."
Er mor sâl yw'r cleifion sydd yma eisoes mae rhai sy'n cyrraedd a'u bywyd yn y fantol yn cael blaenoriaeth a chyda gweddill yr Ysbyty yn llawn dop hefyd prin yw'r cyfleoedd i symud cleifion ymlaen.
Fe brofon ni hynny wyth awr ynghynt o ymuno a chyfarfod bore'r ysbyty.
"Thank you for all your efforts this week."
Ben bore a mae 85 o gleifion yn aros am welyau ar y wardiau Ond dim ond with sy'n bendant o adael.
"Mae fel jig-so bob dydd, ac mae bob dydd yn wahanol."
“Mae jig-so newydd pob dydd, dyna'r broblem. Ydy. Mae'n newid pob awr, rili."
Mae rhyddhau gwelyau yn fwy o her na'r arfer heddiw.
"Ni'n siarad lot efo'r matrons ar draws yr Ysbyty a gweithio'n galed i gael y bobl mas."
Mae timoedd ar draws yr ysbyty yn ceisio gwella pethau.
"Gallen ni weld hi Heddiw a gobeithio cael hi adref."
Yn yr adran yma mae meddygon teulu yn cydweithio gyda staff i adnabod y galwadau lle gallen nhw gyfeirio cleifion o'r uned frys a'u trin nhw ar yr un diwrnod.
"Wythnos ddiwethaf welon ni tua 100 o bobl dros yr wythnos. 100 o bobl sydd heb fynd trwy ddrysau A&E ond syth i ni.
"Tydy 68% o'r cleifion yna heb aros yn yr ysbyty."
Mae staff mewn un adran o'r ysbyty wedi llwyddo drwy gydweithio gyda chynghorau ac elusennau i leihau'r cyfnod mae rhai cleifion yn aros yn yr Ysbyty o fwy nag wythnos.
"Mae pobl yn cael yn well adref, a mae research yn dangos fod pobl yn cael yn well yn y gymuned.
"Mae lot o wasanaethau yn y gymuned nawr sy'n gallu helpu pobl od yn gryfach a mwy annibynnol a gwella yn eu hunain."
Er gwaetha'r holl ymdrechion does dim gorffwys yn yr uned frys a hithau bellach yn 5:30yp.
Tu fas mae wyth ambiwlans yn ciwio i drosglwyddo'u cleifion ac un wedi bod yma ers 8:45yb.
"Wnes i ddod syth mlaen fan hyn i gymryd cleifion o griw arall a ni wedi bod yma trwy'r dydd a ni bron a gorffen am 6.00yh. 12 awr tu fas i'r ysbyty."
Gyda chymaint o oedi mae man aros penodol wedi'i adeiladu gerllaw mynedfa'r uned frys lle gall cleifion gael eu monitor er mwyn i'r criwiau ambiwlans gael hoe.
"Dw i ddim yn gwybod beth sy'n bod. Yr oll alla i ddweud ydy bod bob un dw i wedi ei gyfarfod yn arbennig iawn ac yn rhoi'r gorau glas.
"Dw i ddim yn deal beth yw'r broblem. Nid y staff yw e, maen nhw'n trio."
Mae cleifion yn canmol y staff i'r cymylau tra'n ymwybodol hefyd bod y system yn gwegian yng ngwyneb galw dibendraw.
"Fel y ffilm Groundhog Day. Keeps on coming, keeps on coming. And you can't give up. Na. Dw i yma am reswm."
Mae'r bobl yma yn dibynnu arna ti. Fel mae Tristan a'i gydweithwyr yn gwybod yn well na neb ydd y straen gynddrwg fory, drannoeth a thrennydd a nid yng nghyfnod y gaeaf yn unig erbyn hyn.