Brawd a chwaer yn lansio map sy'n cynnwys 'pob gig yng Nghymru'
Brawd a chwaer yn lansio map sy'n cynnwys 'pob gig yng Nghymru'
Mae brawd a chwaer o'r Felinheli wedi creu map rhyngweithiol sy'n cynnwys 'pob gig yng Nghymru' ar ôl colli allan ar lawer o gigiau achos nad oedden nhw'n gwybod eu bod yn cael eu cynnal.
Lansiodd Martha a Jona Owen 'Awni?' ar 20 Ionawr gyda'r bwriad o gynnwys gigiau ar draws Cymru, gan nodi pwy oedd yn chwarae, lleoliad y gig a phris tocynnau.
Mae'r wefan yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan y ddau ar hyn o bryd, gyda Martha’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddysgu sut i godio a rheoli’r wefan.
Roedd creu'r wefan yn bosib hefyd trwy gymorth ariannol gan Sain trwy fenter Arfor.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Jona, sy'n 27 oed mai'r bwriad yw bod pobl yn gwybod union le a pryd mae gigiau yn cael eu cynnal a bod neb yn colli allan ar gyfleoedd i wylio bandiau Cymraeg.
“Bwriad ‘Awni?’ ydi sicrhau bod pawb yn gallu gweld bob dim sy’ ‘mlaen," meddai.
"Yn syml jyst map ydi o. Ag ar y map ma’ bob un gig sy’n digwydd yng Nghymru, bob wythnos a thu hwnt hefyd.
“Ma’ gynnon ni gigs yng Nghymru, yn Lloegr, yn Yr Alban yn Ewrop a hyd yn oed mor bell â Seland Newydd hefyd felly, gobeithio y bydd pobl o hyn ymlaen yn gallu ffeindio unrhyw gigs ma’ gynnon nhw diddordeb mynd i ar y wefan a gobeithio mynd iddyn nhw wedi os ma’ nhw isho."
Ychwanegodd Martha, sy'n 23 oed: “Mae ‘Awni?' hefyd yn cynnig trosolwg da o'r sîn ar y funud - lle mae hotspots ar gyfer gigs Cymraeg, pa ardaloedd sydd angen mwy o ddigwyddiadau, a hefyd yn uwcholeuo bod yna sîn gyffrous tu allan i Gymru gydag artistiaid Cymraeg yn gigio tu hwnt i Gymru.
'Sicrhau sîn sy'n ffynnu'
Dros y misoedd diwethaf mae rhai lleoliadau cerddoriaeth byw wedi gorfod cau.
Ar ddiwedd 2024 roedd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi nodi bod dros 14,000 o ddigwyddiadau cerddoriaeth byw wedi eu gohirio ar draws y DU.
Yng Nghaerdydd mae The Moon wedi cau eu drysau ac yng Nghasnewydd mae Le Pub wedi cael ei achub gan fenter gymunedol.
Gobaith Martha yw y byddai 'Awni?' yn gallu rhoi hwb i leoliadau cerddoriaeth byw.
“Dwi'n clywed lot o sôn ar hyn o bryd am leoliadau cerddoriaeth byw o dan bwysau ariannol a rhai, fel The Moon yng Nghaerdydd yn gorfod cau eu drysau - sydd mor drist," meddai.
“Mae lleoliadau cerddoriaeth byw mor bwysig i ddyfodol y diwydiant cerddoriaeth, ag i helpu sicrhau sîn ffyniannus yn Gymraeg.
“Gyda chostau byw yn codi, mae pob ceiniog yn bwysig ac felly gobeithio, os fydd pobl yn darganfod gigs a'n bachu tocynnau drwy ddefnyddio ‘Awni?', fydd hyn yn rywfaint o help i drefnwyr a Venues Cymru i barhau'r gwaith pwysig ma' nhw'n g'neud."
Roedd Martha a Jona wedi pori trwy dudalennau Facebook ac Instagram i gasglu rhestrau misol cyn lansio'r wefan.
Er y byddan nhw'n parhau i ychwanegu gigiau i'r wefan eu hunain maen nhw'n gobeithio y bydd pobl yn cysylltu gyda nhw gyda gigiau i'w ychwanegu hefyd.
"Y gobaith ydi bod ‘Awni?’ yn cael digon o enw da a bod ‘na digon o bobl yn gwybod am y wefan. A bod hynny wedyn yn arwain at pobl yn gyrru gigs fewn i ni," meddai Jona.
“Gobeithio hefyd bod o’n caniatáu i bandia’ neu venues gyrraedd cynulleidfa ehangach hefyd.
"Felly, dwi’n meddwl bod ‘Awni?’ yn gweithio jyst fel rhyw fath o middle man, a gobeithio bod o’n neud petha’n haws o ran trefnu gigs a hefyd i pobl i ffindio gigs."
Ychwanegodd Martha y byddai un person yn mynd i gig nad oedden nhw'n gwybod oedd yn bodoli yn cyfri fel llwyddiant i'r wefan.
“Mae'r adborth am y syniad hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn gyda dros fil o ddefnyddwyr yn y deuddydd cyntaf ers lansio," meddai.
“Ond y gobaith ydi - os fydd ‘Awni?' yn ysgogi hyd yn oed i un person i fynd i gig Cymraeg yn eu hardal nhw fysa nhw heb glywed am cyn i'r wefan fodoli - fydd hynny yn llwyddiant mawr i ni."
Mae modd ymweld â wefan Awni fan hyn.