Annog pobl Cymru i gyfrannu at arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt
Mae elusen gwarchod adar yn annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan yn arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt yr ardd dros y penwythnos.
Mae'r RSPB wedi cynnal yr arolwg Gwylio Adar yn yr Ardd bob blwyddyn ers 1979, gan ofyn i filoedd o deuluoedd i gyfrif yr adar yn eu gerddi.
Dros y blynyddoedd mae'r digwyddiad wedi tyfu mewn poblogrwydd ac fe gymerodd 29,495 o bobl yng Nghymru ran y llynedd.
Y bwriad yr elusen eleni yw cael 30,000 o bobl i gymryd rhan yn yr arolwg a fydd yn cychwyn ddydd Gwener ac yn parhau nes ddydd Sul.
Pwrpas y digwyddiad yw cynnig trosolwg o nifer yr adar yng ngerddi'r DU, gan nodi'r rhai sydd yn gwneud yn dda ac yn ffynnu ond hefyd rhai sydd yn gweld eu niferoedd yn disgyn.
Mae'r RSPB yn gallu defnyddio'r ystadegau sydd yn cael eu casglu er mwyn llunio polisi a sicrhau bod unrhyw adar mewn peryg yn cael eu gwarchod.
'Heriau'
Dywedodd llefarydd ar ran RSPB Cymru bod adar yn "wynebu heriau na welwyd erioed o’r blaen" ar draws y wlad.
"O golli cynefinoedd i newid hinsawdd, mae cymaint o’n rhywogaethau poblogaidd yn dirywio ac mae’n hollbwysig ein bod yn dysgu pam," meddai.
"Mae’r gweithgaredd syml hwn yn ein helpu i gadw golwg ar iechyd a phoblogaethau’r holl wahanol rywogaethau o adar sy’n ymweld â’n gerddi a’n mannau gwyrdd ni, drwy ddarparu data hanfodol i gefnogi ymdrechion cadwraeth bywyd gwyllt.
"Mae’n ein helpu i gael darlun cliriach o sefyllfa adar yr ardd ar hyd a lled Cymru, ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau y mae angen eu cymryd i’w hamddiffyn."