'Braint': Cogydd o Sir Gâr yn ennill gwobr coginio cenedlaethol
Mae cogydd o Sir Gâr wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth coginio cenedlaethol.
Fe enillodd Sam Everton, 26 oed o Langeler, deitl ‘Cogydd Cenedlaethol Cymru’ ym Mhencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru (WIIC) - a hynny blwyddyn ar ôl iddo ennill teitl Cogydd Iau Cymru.
Mr Everton, sydd yn gweithio fel darlithydd arlwyo yng Ngholeg Ceredigion, yw'r ail berson yn unig i ennill y ddwy wobr dwy flynedd yn olynol.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd, a chafodd ei threfnu gan Gymdeithas Goginiol Cymru.
Dywedodd Sam ei fod wedi penderfynu cystadlu ar ôl clywed mai dim ond un cogydd arall oedd wedi ennill y ddau deitl yn olynol, ond nid oedd wedi dychmygu y byddai wedi ennill.
"Mae’n fraint ennill ac yn un arall i dicio oddi ar y rhestr," meddai.
"Mae ‘na flwyddyn fawr o fy mlaen i gyda llawer o gynllunio, ac rwy’n gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig."
Rhoddwyd tair awr i'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol i goginio tri chwrs ar gyfer 12 o westai, a oedd yn cynnwys cynhwysion Cymreig.
Coginiodd Sam gwrs cyntaf o fosaig cennin a gwymon, tatws a burum, ac yna prif gwrs o ffiled cig eidion Ceredigion, tarten foch eidion a thryffl.
I bwdin, coginiodd cremeux siocled gyda menyn mêl Cymreig, iogwrt a rym.
Bydd Sam yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol Pencampwriaeth Cogyddion Byd-eang, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf.
Ei obaith yw ennill medal yn y Bencampwriaeth.