Menyw 65 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent
Mae menyw 65 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent.
Cafodd Heddlu Gwent a pharafeddygon eu galw i Stryd yr Eglwys, ym Mlaenau, am 11.10 dydd Sadwrn 18 Ionawr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a cherddwr.
Bu farw’r cerddwr, menyw 65 oed o Blaenau, yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae teulu’r fenyw wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae gyrrwr y fan, dyn 31 oed o Blaenau, yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliad.
Mae swyddogion yn apelio am unrhyw un a oedd yn ardal Stryd yr Eglwys rhwng 10.50 a 11.15 ar fore Sadwrn 18 Ionawr i gysylltu â nhw.
Fe allai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, neu luniau cylch cyfyng neu dashcam, gysylltu â’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500018177.