O leiaf 19 mlynedd dan glo i ddyn o Gaerdydd am lofruddio ei ffrind ar Noswyl Nadolig
Mae dyn 24 oed o Gaerdydd a wnaeth lofruddio ei ffrind ar Noswyl Nadolig 2023 wedi derbyn dedfryd o oes yn y carchar.
Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod Dylan Thomas yn euog o lofruddio William Bush, 23 oed yn eu cartref yn Llandaf.
Roedd Thomas, sydd yn ŵyr i'r miliynydd Syr Stanley Thomas, sylfaenydd Peter's Pies, wedi ei gyhuddo o drywanu William Bush sawl gwaith mewn ymosodiad â chyllell ar 24 Rhagfyr 2023.
Mewn gwrandawiad cynharach, plediodd Thomas yn euog i ddynladdiad ond roedd wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Roedd y ddau ddyn wedi bod yn ffrindiau ers pan oedden nhw'n 13 oed ar ôl cyfarfod yng Ngholeg Crist Aberhonddu, Powys.
Dioddefodd Mr Bush 37 o anafiadau trywanu yn yr ymosodiad, gan gynnwys 16 i'w wddf, tra bod Thomas wedi dioddef anafiadau i gledrau ei ddwylo.
Roedd Dylan Thomas wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi'i anafu wrth geisio amddiffyn ei hun yn ystod yr ymosodiad.
Roedd Syr Stanley Thomas yn bresennol yn y llys drwy gydol yr achos.
'Ymosodiad ffyrnig'
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Mrs Ustus Steyn fod Dylan Thomas wedi defnyddio dwy gyllell - cyllell fflic a chyllell gegin - i achosi sawl anaf i Mr Bush.
“Fe wnaethoch chi drywanu Mr Bush dro ar ôl tro yn y gwddf, y pen, y frest a'r cefn,” meddai.
“Dim ond chi sy’n gwybod union fanylion yr hyn a ddigwyddodd pan aethoch i mewn i’r tŷ."
Ychwanegodd: “Mae’n rhaid ei bod hi’n hynod o frawychus ac arswydus i Mr Bush ddioddef ymosodiad yng nghartref ei hun, yn wir, yn ei ystafell wely ei hun, gan un o’i ffrindiau agosaf.
"Roedd modd ei glywed yn sgrechian ac yn crio, ac roedd yn amlwg ei fod yn brwydro i ymdopi â’ch ymosodiad creulon.”
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr fod sgitsoffrenia Mr Thomas yn ffactor, ond nid oedd yn gyfystyr ag amddiffyniad cyfreithiol i lofruddiaeth.
'Barbaraidd'
Mewn datganiad gan deulu Mr Bush, siaradodd ei chwaer Catrin, ar ei rhan ei hun a’i brawd Alex, fod marwolaeth ei brawd yn “drosedd farbaraidd”.
“Cafodd bywyd Will ei gymryd oddi arnom ar 24 Rhagfyr 2023 yn y ffordd fwyaf barbaraidd a chreulon,” meddai Ms Bush.
“Roedd Will yn ddiniwed yn cael trefn ar bethau i ddychwelyd yn ôl i Aberhonddu i dreulio’r Nadolig gyda ni fel teulu.
“Ond yn hytrach na bod Will yn dychwelyd adref am swper ar Noswyl Nadolig, roedd Heddlu Dyfed-Powys yn curo ar ein drws yn dweud wrthym fod Will wedi marw.
“Ni allaf roi mewn geiriau pa mor drawmatig ac ofnadwy oedd y profiad hwn, ac rwy’n dal i gael eiliadau o banig pan fyddaf yn meddwl amdano.
“Alla i ac Alex ddim dechrau amgyffred yr ofn a’r dioddefaint a ddioddefodd Will ar y diwrnod hwnnw.
“Bydd yr arswyd yna yn byw gyda ni am byth.”
Llun: Dylan Thomas a William Bush