Newyddion S4C

Sainsbury’s yn cyhoeddi y bydd yn torri 3,000 o swyddi

23/01/2025
Sainsbury's Llanbedr Pont Steffan

Mae cwmni Sainsbury’s wedi cyhoeddi ei fwriad i dorri mwy na 3,000 o swyddi a gweddill y caffis yn eu harchfarchnadoedd.

Mae yna 30 o archfarchnadoedd y cwmni yng Nghymru.

Mae tua 148,000 o weithwyr gan y cwmni ar hyn o bryd, gan olygu y bydd gostyngiad o tua 2% yn eu nifer. Fe fydd yn cynnwys tua 20% o uwch reolwyr y cwmni.

Dywedodd y cwmni y bydd 61 o gaffis yn cau ac nad oedden nhw’n cael eu defnyddio yn rheolaidd gan gwsmeriaid.

Fe fydd hyn yn golygu y bydd pob un o'r pump caffis sydd yng Nghymru yn cau - gan gynnwys ym Mhontypridd, Pontllanfraith a Chasnewydd yn y de yn ogystal â Wrecsam a'r Rhyl yn y gogledd.

Dywedodd Simon Roberts, prif weithredwr Sainsbury’s, fod yr archfarchnad yn wynebu “amgylchedd ariannol arbennig o heriol”.

“Mae’n golygu ein bod ni wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch ble y gallwn fforddio buddsoddi a lle mae angen i ni wneud pethau’n wahanol er mwyn gwneud ein busnes yn fwy effeithlon ac effeithiol.

“Mae’r penderfyniadau rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn hanfodol i sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud cynnydd ond maen nhw hefyd wedi golygu rhai dewisiadau anodd sy’n effeithio ar ein cydweithwyr ymroddedig.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi unrhyw un y mae cyhoeddiadau heddiw yn effeithio arnynt.”

Llun: Sainsbury's Llanbedr Pont Steffan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.