Newyddion S4C

Mabli Cariad Hall: Dedfrydu menyw 71 oed i bedair blynedd o garchar

Mabli Cariad Hall: Dedfrydu menyw 71 oed i bedair blynedd o garchar

Mae menyw 71 oed wedi derbyn dedfryd o bedair blynedd am achosi marwolaeth Mabli Cariad Hall drwy yrru’n beryglus.

Cafodd Bridget Curtis, o Fegeli yn Sir Benfro ei dedfrydu mewn gwrandawiad llys yn Abertawe ddydd Iau.

Roedd Ms Curtis eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Mabli Cariad Hall drwy yrru’n beryglus mewn gwrandawiad llys ym mis Medi.

Mae Ms Curtis hefyd wedi ei gwahardd rhag gyrru am wyth mlynedd.

Bu farw Mabli, oedd yn wyth mis oed, ar 25 Mehefin 2023 wedi gwrthdrawiad y tu allan i fynedfa Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ar 21 Mehefin.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a’i throsglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Wrth roi’r ddedfryd dywedodd y barnwr Geraint Walters fod bywydau aelodau teulu Mabli Cariad Hall wedi “eu dinistrio, ar ôl dioddef yr hyn mae pob rhiant yn ei ofni fwyaf, sef colli plentyn.

“Fe gafodd ei bywyd ei chymryd yn gwbl ddi-angen o ganlyniad i’ch gweithredoedd chi," meddai.

‘Allan o reolaeth’

Clywodd y llys bod cerbyd Ms Curtis “allan o reolaeth” cyn taro pram Mabli. Cafodd lluniau CCTV o’r digwyddiad eu dangos yn y llys yn ogystal.

Dywedodd Craig Jones, y cyfreithiwr ar ran yr erlyniad, bod Ms Curtis yn yr ysbyty yn gollwng ei merch am apwyntiad.

Gyda’r injan ymlaen, fe wnaeth Ms Curtis droi i gefn y car er mwyn ceisio dod o hyd i fag ei merch.

Ond nid oedd y cerbyd wedi’i roi yn y gêr parcio ac fe wnaeth hyn achosi i’r car fynd yn ei flaen mewn modd oedd “allan o reolaeth” yn ôl Mr Jones.

“Teithiodd y car am tua 28 metr a chyrhaeddodd cyflymder uchaf o 29.2 milltir yr awr,” ychwanegodd.

“Ni ddefnyddiwyd y brêcs. Dim ond ar ôl taro coeden y daeth y car i stop, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd pram Mabli ei daro gan y car.”

Roedd yr olygfa yn un o “arswyd a phanig” yn ôl yr erlynydd Mr Jones, wrth i aelod o staff yr ysbyty ddod o hyd i Mabli Cariad Hall a chafodd ei chludo i’r adran frys.

“Cafodd ei throsglwyddo wedyn i Ysbyty Athrofaol Cymru, yna Ysbyty Brenhinol Plant Bryste," meddai.

“Er gwaethaf y gofal gorau, yn anffodus bu farw o ganlyniad i’w hanafiadau ar 25 Mehefin 2023.” 

'Ymddiheuro'n llawn'

Mewn llythyr wedi’i gyfeirio at y teulu Hall, dywedodd Ms Curtis: “Rydw i'n ymddiheuro yn llawn. Ni fydd bywyd yr un peth byth eto.

"Gobeithio eich bod yn deall y bydd y tristwch a’r galar yn byw gyda mi tan fy nyddiau olaf.”

Dywedodd John Dye ar ran yr amddiffyniad ei fod yn “drasiedi nad oedd modd ei amgyffred".

“Ni fydd unrhyw ddedfryd yn lleihau’r dioddef i deulu Mabli.”

Dywedodd yr heddlu ei fod yn bosib bod y gwrthdrawiad wedi digwydd oherwydd “dryswch gyda'r pedalau".

Ychwanegodd Mr Dye fod y ffenomenon “yn cael ei dderbyn yn eang.”

Dryswch gyda'r pedalau yw pan mae’r corff ddim yn adnabod ei fod yn gwasgu’r pedal anghywir ac yn gwasgu’n galetach ar y pedal.

“Mae’r ffenomenon yn dueddol i effeithio ar yrwyr oedrannus yn amlach," meddai.

“Nid oedd hwn yn weithred fwriadol, dydw i ddim yn meddwl byddai unrhyw un yn dweud hynny.”

Datganiadau’r teulu

Roedd rhieni Mabli, Rob a Gwen Hall yn eu dagrau wrth ddarllen eu datganiadau yn y llys.

Dywedodd Mr Hall bod y digwyddiad wedi “newid ein bywyd am byth yn y ffordd fwyaf dinistriol.”

“Wrth i mi geisio codi fy hun [ar ôl y gwrthdrawiad], y cyfan roeddwn i'n gallu ei glywed oedd sgrechian o'm cwmpas," meddai.

“Y peth cyntaf dwi'n ei weld yw pram fy merch o dan y car. Allwch chi ddim dychmygu sut deimlad oedd hwnnw.

“Gwelais gorff difywyd Mabli ym mreichiau rhywun, delwedd arall dw i yn parhau i weld drosodd a throsodd.”

Fe ychwanegodd Mr Hall: “Ni fyddaf byth yn maddau i Bridget Curtis am hyn. 

“Yr unig oedran y dylid ei gymryd i ystyriaeth yn y mater hwn, yw oed fy maban gwerthfawr, diniwed, Mabli Cariad.”

Dywedodd Ms Hall: “Hi yw baban y teulu a bydd hynny'n wir am byth.”

Roedd Ms Hall yn “pledio gyda staff meddygol am ychydig o obaith, ond doedd dim. Fe wnaeth y staff meddygol grio gyda ni.”

“Daeth yr amser ac fe wnaethom wylio ein baban yn marw yn ein breichiau," meddai. "Fe wnaethon ni dreulio amser yn ei chofleidio a’i chusanu.

“Rydym wedi cael dedfryd sydd yn waeth na charchar ac mi fydd hynny gyda ni am byth. Fe orffennais fy nghyfnod mamolaeth heb fy maban.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.