Newyddion S4C

Eira mawr yn taro Florida a thaleithiau eraill yn ne UDA

23/01/2025

Eira mawr yn taro Florida a thaleithiau eraill yn ne UDA

Mae talaith Florida yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei daro gyda’r eira mwyaf a welwyd yno ers dechrau cadw cofnodion.

Mae o leiaf 12 o bobl wedi marw mewn cysylltiad â’r eira mawr yn nhaleithiau eraill ar arfordir Gwlff Mecsico, yn ôl yr awdurdodau. 

Bu farw pump o bobl yn dilyn gwrthdrawiad car a ddigwyddodd yn sgil y tywydd garw ag amodau gyrru gwael yn nhalaith Texas ddydd Mawrth. 

Dinas Pensacola yn nhalaith Florida sydd wedi’i daro waethaf gan eira wedi i dros naw modfedd syrthio yno dros y dyddiau diwethaf. 

Mae wyth modfedd o eira hefyd wedi cwympo yn Louisiana ger maes awyr New Orleans, sef y fwyaf o eira sydd wedi cwympo yno ar gofnod. 

Mae cannoedd ar filoedd o ddinasyddion yn nhaleithiau eraill yn ne America hefyd wedi wynebu cyfnod heb bŵer yn sgil y tywydd gaeafol. 

Roedd rhybudd am stormydd eira mewn grym rhwng de Texas tuag at y gogledd hyd at Virginia rhwng dydd Mawrth hyd at fore Fercher, gan effeithio ar 31 miliwn o bobl. 

Image
Bob Henson

Yn ôl y meteorolegydd Bob Henson o Colorado, mae’r tywydd eithafol yn profi “nad oes modd anwybyddu’r gaeaf.” 

Dywedodd ei fod yn hollbwysig bod y wlad yn paratoi ar gyfer y gaeaf “nawr mwy nac erioed” a bydd yn rhaid “gwario ychydig” er mwyn sicrhau lles pobl. 

Lluniau: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.