Dewis Mari Grug yn lysgennad Ymchwil Canser Cymru
Mae’r cyflwynydd Mari Grug ymhlith saith o wynebau adnabyddus eraill sydd wedi eu dewis i fod yn lysgenhadon Ymchwil Canser Cymru.
Mae cyflwynydd Heno bellach wedi ei henwi’n un o ‘Saith Seren’ yr elusen, a hynny gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am ymchwil canser.
Yn y byd chwaraeon, bydd cyn athletwr Jamie Baulch yn ogystal â chyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol Nigel Walker a Phillippa Tutiett hefyd ymhlith llysgenhadon newydd yr elusen.
A bydd cyn Miss World Cymru, Millie-Mae Adams, y cyflwynydd Angela Jay a’r dyn fusnes Rob Lloyd yn cynrychioli’r elusen hefyd.
Dywedodd Mari Grug wrth Radio Cymru ei bod yn teimlo "mor falch" bod yr elusen wedi gofyn iddi ymgymryd â'r rôl.
Dywedodd ei fod yn bosib iawn na fyddai yma heddiw heb yr ymchwil sy'n cael ei ariannu gan elusennau fel Ymchwil Canser Cymru.
"Yn wahanol falle i’r chwech arall sydd wedi cael eu henwi yn anffodus dw i wedi cael aelodaeth i’r clwb canser," meddai.
"Felly dw i ar hyn o bryd fel mae nifer ohonoch chi’n gwybod yn cael triniaeth canser felly dwi’n gobeithio mod i’n gallu dod a rhywbeth bach gwahanol i’r bwrdd.
"Ond hefyd yn gallu rhoi rhywbeth nol achos fel o’ni’n son dw i’n cael triniaeth ac mae’r gofal a’r driniaeth yn anhygoel
"Felly os allai chwarae rhan fach i roi rhywbeth nol ac i godi proffil.
"Dyna'r prif beth gyda’r elusen - yn aml iawn maen nhw’n cael y cwestiwn ydyn nhw’n rhan o Ganser Research UK? Wel na.
"Maen nhw’n elusen hollol annibynnol sydd yma yng Nghymru a’r arian i gyd yn cael ei wario yng Nghymru.
"Dyna yw prif bwrpas y criw ohonon ni dwi’n meddwl i godi proffil. Mae’r elusen wedi bod yn mynd ers 1966 ond rhaid i fi fod yn onest dim ond yn y blynyddoedd diwethaf nes i glywed amdanyn nhw.
"Felly dwi’n teimlo fel rhywun sy’n cael triniaeth mae yna lot o waith i’w wneud i helpu nhw a dyna yw ein bwriad ni."
'Eisiau gwneud rhywbeth'
Fis Gorffennaf 2023, datgelodd y cyflwynydd bod ganddi ganser y fron.
Ychwanegodd ei bod hi wedi cael diagnosis dri mis ynghynt a’i fod ers hynny wedi lledu i’r nodau lymff a’i hafu.
Yna, ym mis Hydref y llynedd, dywedodd bod y canser wedi dychwelyd.
Dywedodd Mari Grug ddydd Iau bod ei thriniaeth yn parhau.
"Mae pobl mor garedig ac eisiau'r gorau drosta i," meddai. "Dw i’n gwd - dw i nôl ar driniaeth fel mae nifer ohonoch chi’n gwybod erbyn hyn.
"Fe ddaeth y canser nol yn weddol gloi a dw i ynghanol cemotherapi ar hyn o bryd, dw i’n ei gael e bob tair wythnos ac mor ddiolchgar amdano fe.
"Ac er enghraifft mae’r cemotherapi dw i arno nawr ddim ond wedi dod mas yn y blynyddoedd mwyaf diweddar.
"Heb yr ymchwil gwych sy’n cael ei wneud gan wyddonwyr a meddygon a phethau yn y maes yma falle fyddwn i ddim yn gallu siarad efo ti bore ma.
"Dwi mor ddiolchgar i gael y cyffur yma sy’n gweithio yn dda ar hyn o bryd - mae’r corff yn ymateb yn dda iddo fe.
"Felly dw i’n hynod lwcus ac yn ddiolchgar iawn.
"Mae pobl eisiau gwneud rhywbeth, mae pobl eisiau helpu, bydded yn lasagna wrth dy stepen drws neu bigo’r plant fyny o'r ysgol.
"Ond mae lot yn gofyn ‘Mari beth allwn ni wneud i helpu ti. Ni’n teimlo mor helpless mewn ffordd.’
"Maen nhw’n gwybod ei fod yn galed ar y corff. A gydag elusen wych fel Ymchwil Canser Cymru mae pobl yn gofyn ‘lle allwn ni roi arian Mari?’
"Oni bai am ymchwil dwi’n meddwl falle na fyddwn i’n siarad gyda ti heddi Dylan. I bobl sy moyn helpu mae yna elusen wych gall pobl gyfrannu.
"Cyfrannwch er mwyn helpu'r frwydr yn erbyn canser sy’n effeithio un ar ddau.
"Mae cyfraddau goroesi canser Cymru ymysg yr isaf yn Ewrop ond mae Ymchwil Canser Cymru yn gwneud eu gorau i newid hynny."
'Cyffrous iawn'
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher ei fod yn "fraint" iddo groesawu'r ‘Saith Seren’ i Ymchwil Canser Cymru a'i fod yn "gyffrous iawn i gael cefnogaeth unigolion mor rhyfeddol o ddawnus ac uchel eu cyflawniad i’n helusen."
“Mae gennym lysgenhadon sydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad; mae un wedi cyhoeddi cyfrannau cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ac mae dau wedi sefydlu busnesau llwyddiannus ac yn ddyngarwyr brwd.
“Yn y cyfamser, mae gennym ddau o’r darlledwyr mwyaf amlwg ac uchel eu parch yng Nghymru, yn ogystal â myfyriwr meddygaeth ac ymgyrchydd dros newid cymdeithasol sy’n digwydd bod yn Miss World Cymru, hefyd – mae’n ystod ryfeddol ac amrywiol o dalent a phrofiad ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl lysgenhadon.”