‘Ystyried’ caniatáu i’r DU ymuno â chynllun masnach yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Undeb Ewropeaidd yn “ystyried” caniatáu i’r DU ymuno â chynllun masnach ar y cyd, yn ôl pennaeth masnach y gymuned wleidyddol.
Dywedodd Maros Sefcovic bod caniatáu i’r DU ymuno â chytundeb PEM (Confensiwn Pan-Ewro-Canoldir) fyddai yn caniatáu masnach rydd gyda’r cyfandir yn “rhywbeth y gallem ei ystyried”.
Mae'r cynllun yn caniatáu masnachu nwyddau heb dariffau ledled Ewrop, yn ogystal â rhai gwledydd eraill sy’n amgylchynu Môr y Canoldir gan gynnwys Israel, Twrci, Moroco a’r Aifft.
Dewisodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol beidio ag ymuno â'r cynllun hwnnw ar ôl Brexit.
Wrth siarad yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, y Swistir, dywedodd Mr Sefcovic ei fod yn disgwyl i glywed beth oedd Llywodraeth y DU eisiau ei wneud.
Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau ymgynghori â busnesau ar fanteision y cynllun a sut y gallai helpu i leihau biwrocratiaeth a lleddfu’r rhwystrau i fasnach gyda gweddill Ewrop.
Dywedodd Maros Sefcovic y gallai fod o fantais yn enwedig wrth fasnachu cynnyrch fferm.
“Byddai’n rhaid i ni gael yr un rheolau ac mae’n rhaid i ni eu huwchraddio ar yr un pryd,” meddai.