Rhybudd ‘perygl i fywyd’ wrth i Storm Éowyn ddod â gwyntoedd 90mya i Gymru
Mae disgwyl i ddydd Iau a Gwener fod yn ddyddiau hynod o wyntog yng Nghymru gan gynnwys rhybudd oren “perygl i fywyd” am gyfnod wrth i Storm Éowyn gyrraedd.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion coch prin i Ogledd Iwerddon a rhannau o'r Alban.
Mae rhybudd melyn am wynt mewn lle ar gyfer gorllewin a rhannau o dde Cymru ddydd Iau.
Ddydd Gwener, bydd y rhybudd gwynt yn gorchuddio'r wlad gyfan a rhybudd oren am “wyntoedd cryf iawn” yn y gogledd.
Mae rhybudd melyn am law hefyd wedi’i gyhoeddi ar draws llawer o Gymru ddydd Gwener, ac mae disgwyl cymaint â 60mm o law dros dir uchel, a allai arwain at rywfaint o lifogydd.
“Gallai malurion yn hedfan, yn ogystal â thonnau mawr a malurion yn cael eu taflu ar lan y môr, achosi anafiadau a pheryglu bywyd pobl,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
Teithio
Mae nifer o gwmnïau trên wedi rhybuddio pobl i beidio â theithio yng ngogledd Cymru ac yn ardaloedd yn yr Alban.
Mae Avanti West Coast, CrossCountry, a Grand Central ymhlith y rheiny sydd wedi rhybuddio teithwyr y bydd oedi i wasanaethau trên yn sgil “gwyntoedd, glaw ac eira cryf iawn".
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd National Rail bod rhybuddion am dywydd garw yn effeithio ar deithiau ar hyd arfordir Cymru a de Lloegr.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y bydd disgwyl i wasanaethau trên parhau i gael eu heffeithio ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y dyddiau nesaf gan ddweud:
“Mae ‘na phosibilrwydd y bydd yn rhaid i drenau teithio’n arafach nag arfer gan achosi oedi i deithiau.”
'Aflonyddwch'
Mae Met Éireann, gwasanaeth tywydd Gweriniaeth Iwerddon, wedi cyhoeddi rhybudd coch ar gyfer y wlad honno i gyd gan rybuddio am “hyrddiau difrifol, niweidiol a hynod ddinistriol” dros 80mya.
Mae’r storm wedi ei achosi gan jetlif pwerus yn gwthio gwasgedd isel ar draws Môr yr Iwerydd a thuag at y DU ar ôl cyfnod o dywydd oer iawn dros UDA a Chanada.
Dywedodd Mike Silverstone, dirprwy brif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd: “Mae disgwyl i Storm Éowyn ddod â gwyntoedd cryfion iawn ac aflonyddwch ar draws ardal eang ddydd Gwener.
“Mae yna nifer o rybuddion tywydd mewn grym ar hyn o bryd, gyda phob rhan o'r DU yn dod o dan o leiaf un rhybudd tywydd rywbryd ddydd Gwener.
“Mae disgwyl i Storm Éowyn groesi Gogledd Iwerddon yn gynnar fore Gwener. Fe fydd wedyn yn parhau i’r gogledd-ddwyrain ar draws hanner gogleddol yr Alban yn ystod prynhawn Gwener a disgwylir iddo gyrraedd Shetland nos Wener.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1882383676316794894
Y rhybuddion
Bydd rhybudd melyn am wynt rhwng 07.00 a hannr nos ddydd Iau yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Abertawe
- Bro Morgannwg
Bydd rhybudd melyn am wynt ar gyfer Cymru gyfan drwy’r dydd ddydd Gwener. Fe fydd yna hefyd rybudd oren o 06.00 nes 21.00ar gyfer y siroedd canlynol:
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
Fe fydd yna hefyd rybudd melyn am law i’r siroedd canlynol rhwng hanner nos a 09.00 ddydd Gwener:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg