Newyddion S4C

Tân newydd yn gorfodi dros 30,000 o bobl i adael eu cartrefi yn LA

Tân Hughes LA

Mae tân newydd a ddechreuodd yn ardal Los Angeles nos Fercher wedi ymledu gan orfodi dros 31,000 o bobl i ffoi o’u cartrefi.

Mae tân Hughes bellach yn llosgi ar hyd 9,400 o erwau a hynny 50km i’r gogledd o’r ddinas yng Nghaliffornia.

Mewn ychydig o oriau yn unig roedd y tân gwyllt wedi tyfu i fod yn dwy ran o dair gwaith maint tân Eaton, sef un o’r tanau gwyllt mwyaf dinistriol a darodd ardal LA dechrau’r mis.

Roedd swyddogion wedi rhybuddio pobl yn ardal Castaic Lake eu bod yn wynebu “bygythiad uniongyrchol i’w bywyd” tra roedd rhybudd ‘baner goch’ am beryg tân eithafol oherwydd gwyntoedd cryf a sych yn parhau mewn grym ar hyd de Califfornia.

Fe gafodd 31,000 o bobl wybod y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi ar unwaith, gyda phosibilrwydd y bydd rhaid i 23,000 pellach ymuno yn ddiweddarach hefyd, medd Siryf Sir Los Angeles Robert Luna mewn cynhadledd i’r wasg.

Mae dros 4,000 swyddogion o’r gwasanaeth tân yn brwydro yn erbyn tân Hughes, meddai Prif Swyddog Tân Sir Los Angeles, Anthony Marrone.

Mae prinder glaw yn yr ardal dros y naw mis diwethaf wedi cyfrannu at amodau all cynorthwyo tanau gwyllt o’r fath.

Ond mae disgwyl ychydig o law ddydd Sadwrn gan bara hyd at ddydd Llun all helpu dod a’r tân newydd i ben.

Mae tanau gwyllt Eaton a Palisades, sydd ymhlith y tanau mwyaf dinistriol y mae ardal LA wedi eu dioddef erioed, yn parhau dan reolaeth yn ôl gwasanaeth tân Califfornia.

Fe ddechreuodd y tanau gwyllt ymledu ar 7 Ionawr ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae 28 o bobl wedi cael eu lladd ac mae bron i 16,000 o adeiladau wedi’u dinistrio.

Mae’r tanau wedi llosgi trwy ardaloedd sy’n gyfatebol i faint prif ddinas yr Unol Daleithiau, Washington D.C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.