Newyddion S4C

Rhedwraig o Wrecsam ar drothwy cwblhau 1,000 hanner marathon mewn 1,000 diwrnod

Helen Ryvar

Fe fydd rhedwraig o Wrecsam yn gobeithio cwblhau hanner marathon ben bore Gwener - am y milfed diwrnod yn olynol.

Mae Helen Ryvar, sydd yn fam i dri o Lai, ger Wrecsam, eisoes wedi gosod Record y Byd Guinness am y nifer fwyaf o ddyddiau olynol o redeg hanner marathon, ar ôl cwblhau'r pellter 111 o ddiwrnod o'r bron.

Ers bron i dair blynedd, mae Helen, 44 oed, wedi gweithio tuag at darged newydd, a hynny i redeg o leiaf 13.1 o filltiroedd am 1,000 o ddiwrnodau yn olynol.

Ac am bedwar o’r gloch fore Gwener, fe fydd Helen yn rhoi’r esgidiau rhedeg a’r dortsh pen ymlaen a mentro i dywyllwch yr oriau man unwaith eto.

“Mae’n deimlad swreal i gyrraedd y pwynt yma,” meddai Helen wrth Newyddion S4C.

“Er fy mod i dal i deimlo’n dda, dwi’n meddwl bod 1,000 yn garreg filltir da i orffen arno. Dwi’n meddwl bydd o’n dasg anodd i rywun arall i guro hynny.”

Rhedeg am bedwar o gloch y bore

Wedi bron i dair blynedd o’r arferiad, mae Helen wedi rhedeg mewn pob math o amodau mewn amryw o wledydd, gan gynnwys America, Twrci, Sbaen, Yr Iseldiroedd a'r anialwch yng Ngwlad yr Iorddonen.

Er rhagolygon am wyntoedd cryfion a glaw, mae Helen, sydd yn rhedeg busnes glanhau llawn amser, yn gobeithio cael cwmni 50 i 100 o ffrindiau a chyd-redwyr fore Gwener wrth iddi redeg o gwmpas Parc Gwledig Dyfroedd Alun pedair gwaith.

Bydd rhai pobl yn ymuno am un lap o’r parc tra bod eraill yn cwblhau'r pedair. Yn ogystal, bydd un cyfaill sydd yn byw yn Seland Newydd yn cwblhau'r her yr un pryd, ar ochr arall y byd.

Ac mae Helen yn awyddus i bobl cael blas o’r hyn sydd wedi bod yn rhan annatod o’i batrwm dyddiol ers cyhyd.

“Mi fydd yn dipyn o barti, dwi’n disgwyl i dipyn o bobl i ddod gobeithio.

“Da ni am neud o am 4 o’r gloch y bore, fel dwi wedi neud yn gyson. Mae’n dawel adeg yna yn y parc felly penderfynais i gadw fo i’r un amser, a hefyd rhoi cyfle i bobl profi un bore o fy mywyd i!

“Mae’n anodd ond dim ond diwrnod ydi o – dwi di bod yn neud o ers bron i dair blynedd rŵan.

"Mae hynny yn rhan fawr ohono - nid just rhedeg hanner marathon ond gwneud o yn y tywyllwch am bedwar yn y bore.

“Dwi’n meddwl mai dyma’r hanner marathon cyntaf i lot o bobl i redeg yr amser yno. Dwi'n rili edrych ymlaen amdano.”

'Mwy na record y byd'

Dros y cyfnod y tair blynedd, mae Helen wedi codi dros £5,000 i elusen iechyd meddwl Mind a dros £2,000 i Cancer Research UK.

Image
Helen a'i phlant
Helen gyda'i phlant, Persia, Marcus ac India

Ar ôl cyfnod o fyw gydag iselder a gorbryder, mae rhedeg wedi ei helpu i “ail-adeiladu”.

“Mae’r rhediad yma yn lot fwy na gosod record y byd Guinness. Mae o am gysylltu hefo pobol, rhannu straeon a gwahodd pobl i ddod hefo fi.

“Mae rhedeg wedi dod a fi’n agosach at bobl sy’n licio bod tu allan yn yr awyr agored, yn agos i natur. 

"Ac yn ara’ deg, dwi wedi adeiladu fy iechyd meddwl i le rŵan, lle dwi’n teimlo’n grêt ac eisiau rhannu fy stori i gyda phobl eraill.

Y diwedd?

Image

Ac er ei bod ar drothwy cyrraedd carreg filltir ryfeddol, nid yw’r rhedwraig wedi penderfynu os mai dyma fydd diwedd y daith.

"Mae’n teimlo’n rhyfedd dod a’r rhediad i ben. Pan ti wedi gweithio mor galed i gyrraedd dy bwynt yma a ti’n stopio, hyd yn oed am ddiwrnod, ac wedyn dechrau eto, mae’n teimlo’n rhyfedd.

"Dwi ddim wedi cael anafiadau, dwi ddim yn blino. Tydi fy ffrindiau ddim isho i’r peth ddod i ben achos maen nhw wrth eu boddau yn ymuno efo fi am 4 o gloch y bore o dro i dro.

"Mae o’n lot fwy na just record y byd rŵan, mae o’n gymuned o bobl ar draws y byd sydd yn rhedeg am 4yb. Mae o fel myfyrdod – da ni’n gallu siarad efo’n gilydd a mwynhau cwmni ein gilydd ar ddechrau’r diwrnod.

"Mae rhan ohonof fi’n teimlo fel ‘os allai neud o fory, na’i neud o fory.’ A dyna sut dwi am feddwl am y peth ar ôl dydd Gwener. Fydd rhaid i fi gario ymlaen i redeg mewn rhyw ffordd, yn sicr.

“Dwi ddim yn gwybod eto os fyddai’n gorffen y rhediad ddydd Gwener, ond hyd yn oed os ydw i’n cario ymlaen, hwn fydd y garreg filltir fawr olaf yn sicr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.