Protestio'n erbyn symud cyrsiau prifysgol Llambed i Gaerfyrddin
Protestio'n erbyn symud cyrsiau prifysgol Llambed i Gaerfyrddin
Mae dros 200 mlynedd o hanes addysg bellach yn Llambed ond am faint yn hirach bydd myfyrwyr yma?
Dyna bryder ymgyrchwyr wrth i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ystyried symud eu holl gyrsiau israddedig i Gaerfyrddin o fis Medi.
Tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd, roedd eu neges yn glir.
"Mae 'na rywbeth arbennig ac unigryw am Llambed.
"Yn fy marn i a barn pobl eraill yma heddiw chi methu ail-greu y manteision i gyd yn Llambed a symud e i gyd mewn i dref arall."
"Mae'r ochr cymdeithasol hefyd, ochr y gymuned.
"Bydde cau'r campws yn Llambed a dod ag addysgu israddedig i ben yn golygu colli incwm i'r dref.
"Mae'r dref wedi dibynnu ar y coleg ers 200 mlynedd."
Yn dilyn protest tebyg ei faint fis ddiwethaf yn Llambed mae'r ymgyrchwyr wedi dod at risiau'r Senedd i wneud eu dadl nhw.
Eu gobaith nhw ydy os nad yw'r Brifysgol wedi gwrando hyd yma bod ganddyn nhw glust Aelodau'r Senedd.
Mae'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eisoes wedi galw ar y Brifysgol i bwyllo.
"Unwaith chi'n cau'r campws, mae 'di mynd.
"Yr holl hanes, ethos, a'r cyfle ar gyfer y dyfodol wedi chwalu.
"'Dan ni'n gofyn i'r Llywodraeth oedi.
"Mae etholiad ar y gorwel, mewn blwyddyn.
"Falle bydd newid polisi i newid y fframwaith cyllidol ar gyfer y prifysgolion i gyd."
Mae'r Brifysgol wedi dweud bod dyfodol Campws Llambed o bwysigrwydd mawr iddynt a'u bod yn parhau i drafod efo gwahanol sefydliadau i sicrhau dyfodol llwyddiannus ac economaidd gynaliadwy i'r safle.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa.
Hynny, yn ystod be all fod yn flwyddyn olaf yn Llambed i rai o'r myfyrwyr yma.