Gohirio triniaeth i glâf canser oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng Cymru a Lloegr
Gohirio triniaeth i glâf canser oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng Cymru a Lloegr
Cafodd llawdriniaeth hollbwysig i wraig o Bowys oedd yn diodde o ganser ei ohirio ar y funud olaf oherwydd ffrae rhwng Cymru a Lloegr ynglŷn â phwy fyddai'n talu am ei thriniaeth.
Roedd Lowri Mai Williams yn disgwyl i fynd i'r theatr yn Ysbyty Amwythig pan gafodd hi'r newyddion.
"Ddoth y llawfeddyg i mewn a dweud 'yn anffodus 'da ni'n methu bwrw mlaen gyda'r llawdriniaeth heddiw achos bod 'na ffrae ynghylch pwy sy'n cyllido'ch triniaeth chi - Lloegr neu Cymru," meddai.
"Roedd o'n llawdriniaeth oedd yn achub bywyd, roedd o'n rhywbeth o'n i wedi paratoi, y teulu wedi paratoi amdano."
Heddiw bu'r Pwyllgor Materion Cymreig o Aelodau Seneddol yn clywed am y problemau i gleifion fel Lowri, sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a'r angen am gwell cyfathrebu rhwng y ddwy wlad.
'Risg annerbyniol'
Dywedodd un cyn-feddyg wrth y pwyllgor fod y sefyllfa presennol yn creu "risg clinigol annerbyniol" i gleifion.
Dywedodd Dr David Bailey, cyn-gadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (y BMA) yng Nghymru bod modd i glaf newid meddyg o fewn un wlad o fewn diwrnod, ond bod y broses o wneud hynny wrth symud rhwng Cymru a Lloegr yn cymryd llawer hirach.
"Mae angen mwy o feddwl joined-up," meddai. "Ar hyn o bryd mae'r broses yn gallu cymryd rhwng 8 a 10 wythnos, ac mae hynny'n creu risg clinigol annerbyniol."
Dywedodd pennaeth ymgynghorwyr Cymru, Dr Stephen Kelly, sy'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, bod hi'n aml yn anodd cael gafael ar gofnodion cleifion o'r ochr arall i'r ffin.
"Byddai cael mynediad i systemau yn help enfawr," meddai.
Dywedodd bod cleifion o Gymru yn aml "dan anfantais" oherwydd bod rhestrau aros yn Lloegr yn aml yn fyrrach.
Mae Lowri Mai Williams bellach wedi cwblhau ei thriniaeth, ac yn glir o'r canser. Mae'n llawn canmoliaeth am safon y gofal gafodd hi yn y diwedd. Ond mae'n dweud fod rhaid gwella'r sefyllfa fel nad oes unrhyw un arall yn gorfod cael profiad tebyg iddi hi.
"Dydi'r broblem dal heb ei ddatrys, a dyna pam mae'r drafodaeth yma heddiw mor hollbwysig," meddai.