Newyddion S4C

'Esgeulustod' wedi cyfrannu at farwolaeth clâf mewn ysbyty

Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae crwner wedi mynegi pryder am yr hyfforddiant mae staff ysbytai yn ei gael i ddefnyddio peiriannau ocsijen.

Clywodd cwest fod clâf yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi marw'n gynt nag y dylai, oherwydd nad oedd falf mewn silindr ocsijen wedi ei agor.

O ganlyniad, methodd Jonathan Abrahams, 74 oed, o Bwllheli, a chael ocsijen am 10 munud.

Dywedodd Kate Robertson, uwch grwner y gogledd-orllewin, fod yna "fwlch mewn hyfforddiant", gan ychwanegu ei bod yn mawr obeithio mai dyma'r marwolaeth olaf o'i fath fyddai'n dod ger ei bron.

Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at Weinidog Iechyd Cymru, a'r Gwasanaeth Iechyd yn genedlaethol, i fynegi ei phryderon.

Clywodd y crwner fod gan Mr Abrahams ganser yr ysgyfaint, ac roedd yn ei chael hi'n fwyfwy anodd i gael ei wynt tra roedd o yn yr ysbyty. Daeth aelod o staff a silindr ocsijen symudol ato, ond gwelodd ar ôl 10 munud nad oedd Mr Abrahams wedi cael yr ocsijen. 

Cyn y digwyddiad, meddai'r crwner, roedd y claf mewn cyflwr "sefydlog".

"Mae hynny'n fy arwain i i feddwl, oni bai am y digwyddiad  yma, fyddai Mr Abrahams ddim wedi marw pan wnaeth o, a bod ei farwolaeth wedi ei gyflymu gan y diffyg ocsijen am y cyfnod yna o tua 10 munud," meddai Ms Robertson.

Yn ei rheithfarn, cofnododd y crwner fod Mr Abrahams wedi marw o achosion naturiol, ond bod "esgeulustod" wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Mae'r ysbyty'n dweud eu bod wedi gwneud newidiadau wedi marwolaeth Mr Abrahams, ac mai dim ond staff cofrestredig sydd bellach yn cael rhoi ocsijen i gleifion.

Wedi'r cwest, dywedodd Angela Wood, cyfarwyddwr nyrsio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:"Rydym yn derbyn yn llwyr casgliadau'r crwner, a rydym eisiau ymddiheuro fod y gofal y cafodd Mr Abrahams wedi disgyn islaw y safonau fyddwn ni'n ddisgwyl."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.