Newyddion S4C

Ceredigion: Arestio pedwar person ar ôl i gar a beic modur gael eu dwyn

22/01/2025
Llanarth

Mae pedwar person wedi cael eu harestio ar ôl i gerbydau cael eu dwyn yng Ngheredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn nifer o adroddiadau o fwrgleriaeth, cerbydau ac eitemau o gerbydau pobl yn cael eu dwyn ar fore 19 Ionawr.

Cafodd car Renault Kangaroo, beic modur Suzuki, offer pŵer, offer garddio, dogfennau personol ac eitemau personol eu dwyn o saith eiddo a cherbydau yn Llanarth a Derwen-gam yng Ngheredigion.

Cafodd dau ddyn 31 oed, un dyn 25 oed ac un fenyw 25 oed eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth a dwyn.

Mae'r pedwar  yn byw yn ardaloedd Abertawe a Chaerdydd.

Maen nhw wedi  eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r llu yn parhau.

Cafodd y car, beic modur ac eiddo eraill eu darganfod yn ardal Abertawe, meddai'r llu.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gallai fod o gymorth i'r heddlu gysylltu trwy eu gwefan neu trwy e-bost.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.