Newyddion S4C

Zip World yn cau ei safle yn Nolgarrog

22/01/2025
zip world

Mae'r cwmni gweithgareddau awyr agored Zip World wedi cyhoeddi eu bod nhw yn cau un o'i safleoedd yng Nghymru. 

Y safle yw Zip World yn Nolgarrog, Sir Conwy.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud eu bod wedi "ystyried yn ddwys" cyn bod i benderfyniad.

"Doedd hyn ddim yn ddewis hawdd ac rydyn ni eisiau dangos ein gwerthfawrogiad i'n holl westai a chefnogwyr a wnaeth wneud y safle yn le antur dan do mor arbennig trwy gydol 2024."

Maent yn dweud y byddant yn cysylltu gyda phobl sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer y safle'r wythnos yma er mwyn trafod opsiynau.

Mae'r cwmni yn berchen ar niferoedd o safleoedd ar draws Cymru a Lloegr. Yn ddiweddar fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddan nhw yn agor safle newydd yn Llundain.

Y safle mwyaf adnabyddus yw Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda yng Ngwynedd.

Mae'n gartref i Velocity, llinell sip gyflymaf y byd, ac atyniadau eraill fel Quarry Karts ac Aero Explorer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.