Llofruddiaethau Southport: Angen dau gerdyn adnabod cyn prynu cyllyll ar y we
Bydd yn rhaid i fanwerthwyr ar y we ofyn am ddau fath o gerdyn adnabod os yw unigolyn am brynu cyllell yn y dyfodol.
Daw’r cynlluniau gan Lywodraeth y DU er mwyn ceisio atal gwerthiant i’r rhai dan oed.
Fe lwyddodd Axel Rudakubana, wnaeth lofruddio tair merch yn Southport y llynedd brynu cyllell ar Amazon pan oedd yn 17 oed. Mae’r gyfraith yn dweud na ddylai rhan fwyaf o gyllyll gael eu gwerthu i unigolion dan 18.
Bydd yn rhaid i rywun sydd am brynu cyllell rhoi dogfen fel pasbort ac anfon fideo byw er mwyn profi eu hoed medd y BBC.
Mae Amazon wedi dweud eu bod wedi dechrau ymchwiliad a’u bod yn cymryd “cyfrifoldeb ynglŷn â gwerthiant eitemau sydd â chyfyngiadau oedran, gan gynnwys cynnyrch efo llafn o ddifri”.
Mae cynnydd wedi bod mewn troseddau sydd yn ymwneud a chyllyll yn y ddegawd ddiwethaf.
Ar hyn o bryd mae adolygiad yn digwydd gan bennaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
Roedd disgwyl iddo adrodd yn ôl ddiwedd y mis ond nawr bydd y Cadlywydd Stephen Clayman yn gwneud cyn hynny.