Parc Cenedlaethol Eryri'n cymeradwyo rheolau llymach ar ail gartrefi
Mae pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo rheol fydd yn ei gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau o fewn ardal y parc yn y dyfodol.
Fe wnaeth y pwyllgor gyfarfod fore Mercher i drafod y cynnig sydd yn cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Cyngor Gwynedd yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno'r cyfarwyddyd ers i awdurdodau ledled Cymru gael rhagor o bwerau gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2022 i reoli nifer yr ail gartrefi.
Fe fyddai angen i unrhyw un sydd am newid statws eu cartref i ail gartref neu lety gwyliau gael sêl bendith gan bwyllgor cynllunio'r Awdurdod yn y dyfodol, yn dilyn penderfyniad aelodau'r pwyllgor.
Fe fydd y mesurau yn dod i rym yn ardal Awdurdod y Parc ar 1 Mehefin 2025.
Er i lawer o aelodau'r pwyllgor fynegi eu cefnogaeth i'r cynllun fore dydd Mercher, cafodd rhai pryderon eu codi yn ystod y drafodaeth dros fabwysiadau'r cyfarwyddyd.
Fe wnaeth y Cynghorydd Nia Owen holi'r Prif Weithredwr, Jonathan Cawley, a fyddai'r ddeddf yn creu rhagor o waith a chostau i'r parc.
"Yn amlwg mae'n mynd i olygu mwy o waith. Pa mor ffyddiog ydan ni fydd na arian ychwanegol? Oherwydd os nad yw’n cael ei weithredu’n iawn, sa fo’n gallu bod yn gam sylweddol feichus."
Dywedodd Mr Cawley bod yr awdurdod wedi gofyn i Gyngor Gwynedd ynglŷn ag arian ychwanegol fel rhan o gynllun peilot yn Nwyfor.
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn "deall safbwynt" y parc wrth ofyn am ragor o arian, ond nad oedd unrhyw arian ychwanegol wedi'i roi ar hyn o bryd.
"Y gwir ydi ‘da ni ddim yn ffyddiog iawn," atebodd Mr Cawley.
"Mae o’n ariannol yn amser eithaf heriol i sawl corff ar hyn o bryd.
"Y gwir ydi hefyd, da ni’m cweit yn siwr be fydd goblygiadau hyn. Mae’n rhywbeth hollol newydd, dwi’m yn siŵr faint o geisiadau fyddan ni’n gweld, faint o achosion gofordaeth fyddan ni’n gweld.
"Fydd rhaid i ni weld sut mae pethau’n mynd a monitro'r sefyllfa, os da chi’n derbyn heddiw ac iddo gael ei weithredu fis Mehefin."
'Mwy o gost'
Fe bleidleisiodd y cynghorydd John Pughe Roberts yn erbyn y cais, gan fynegi pryderon ynglŷn â chau ffynhonnell incwm i ffermwyr ifanc sydd yn "arallgyfeirio" drwy osod tai byr dymor.
Dywedodd hefyd y gallai'r cyfarwyddyd ddenu pobl hŷn i brynu tai oedd eisoes yn dai haf, gan gynyddu'r pwysau ar wasanaethau lleol.
Dywedodd Mr Roberts: “Mae prisiau tai wedi cwympo ychydig, ddim lot. Ond y drwg ydi, mae pobol ifanc wedi gadael Meirionydd, does 'na ddim gwaith ym Meirionydd.
"Mae’r household income lleiaf ym Mhrydain Fawr, does dim gwaith, felly'r bobl sy’n dod yma rŵan di’r bobol sydd isho reteirio.
“Pwy sy’n prynu’r tai ydi hen bobl sydd isho reteirio, maen nhw’n mynd i Aberdyfi, lle bendigedig i reteirio, wedyn maen nhw eisiau eu package [gofal] ac wedyn mae’n fwy o gost, mynd i’r cartref ac ati, ac mae’n fwy o gost.
"Mae Cyngor Gwynedd yn cwyno yn barod bod nhw’n methu fforddio’r package i’r hen bobol.
"Felly ella bod ti’n helpu’r achos mewn un lle ond yn wneud drwg yn rhywle arall. Pan maen nhw’n ail gartrefi, di’r gost yna ddim yna.”
Dywedodd y Cynghorydd Edgar Owen bod angen i'r awdurdod ystyried ragor o fesurau i sicrhau bod pobl ifanc yn aros yn yr ardal.
"Mae hwn y peth pwysicaf sydd di bod yn y parc achos mae’n mynd i stopio cael mwy o dai haf," meddai
"Mae o’n bwysig ar gyfer pobol ifanc o fewn y parc ac mae isho ffermwyr a phobl eraill sydd efo tir, lle sa ni'n medru adeiladu tai fforddiadwy o fewn y parc, i ddod ymlaen.
"Mae isho cadw'r bobol leol i gadw’r ysgolion, mae ffigyrau yn mynd i lawr rŵan mewn rei llefydd ac mi fydd na gau ysgolion eto os na fydd na bobol ifanc yn dod i fyw o fewn y parc.
"A dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn bod hwn yn cael ei basio heddiw. Mae’n rhaid i bobol wybod bod ni o ddifri am be da ni isho neud o fewn y parc ar gyfer pobol leol, a chadw’r iaith Gymraeg i fynd."
'Prisio allan o'r farchnad dai'
Mae rhannau o Wynedd a rhannau o Sir Conwy o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol.
Mae'r cynllun newydd yn golygu bod angen i berchnogion tai yn yr ardaloedd yma sicrhau caniatâd cyn gallu newid statws eu tai.
Derbyniodd y parc 357 o ymatebion yn ystod y cyfnod ymgynghori â'r cyhoedd.
Yn yr ymatebion hynny roedd pryder am effaith negyddol ar brisiau'r farchnad dai, yr economi a hefyd yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi cyhoeddi adroddiad yn asesu'r effaith ar y Gymraeg yn yr ardal.
Roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn dweud bod angen "creu cymunedau cynaliadwy."
Mae dros 50% o boblogaeth Eryri wedi eu prisio allan o'r farchnad dai, ond mewn rhai ardaloedd mae'r ffigwr mor uchel ag 80%, meddai awdurdod y parc.
Mae rheol Erthygl 4 yn ei lle yng Ngwynedd ers y llynedd.
Fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd o blaid cyflwyno Erthygl 4, gyda'r grymoedd hynny'n weithredol o fis Medi eleni.